Newyddlenni
Myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn edrych ymlaen at lansio eu App cyntaf
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn brysur yn paratoi i lansio eu app atgoffa tymor hir ar gyfer teclynnau symudol.
Mae Kalaivani, 32, a'i g诺r Karthikesan, y ddau o Singapore, yn israddedigion yn Ysgol Busnes Bangor a'r Coleg Gwyddorau Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor. Ers pedwar mis bellach maent wedi bod yn datblygu eu app eu hunain, Key It In, ac maent yn awr yn paratoi at y lansio ar 15 Mawrth.
Meddai Kala am yr App: "Mae wedi ei anelu at bawb a dweud y gwir. Ei ddiben yw galluogi pobl i gadw gwybodaeth am leoliad eitemau gwerthfawr y maent wedi'u cadw'n ddiogel. Efo'r app yma ni fydd raid i bobl boeni am anghofio lle maent wedi rhoi rhywbeth dro'n 么l. Gallai fod yn llawlyfr defnyddio teledu y gwnaethoch ei gadw fel y gellid cyfeirio ato pe bai angen, neu ewyllys a dogfennau cyfreithiol.
Ar 么l symud i Fangor yn ddiweddar roedd gennym lawer o bapurau oedd angen eu cadw'n ddiogel ac weithiau roeddem yn cael trafferth cofio lle roeddem wedi'u cadw, ac felly fe wnaethom benderfynu datblygu App sy'n gadael i chi nodi lle rydych wedi cadw eich eitemau pwysig.
"Mae'n gysyniad syml a hawdd ei ddefnyddio gyda graffigau bywiog. Fe wnaethom ddarganfod pa gefnogaeth oedd ar gael yn ystod modiwl Entrepreneuriaeth pan fu siaradwr gwadd yn s么n am Fenter Cymru. O ganlyniad i hynny fe wnaethom edrych ar eu gwefan a darganfod bod gan Brifysgol Bangor adran Byddwch Fentrus. Fe wnes i gyfarfod 芒 Lowri a chefais fy nghyfeirio at Chris Walker a roddodd syniad i mi pa fath o gefnogaeth oedd ar gael i rywun ddechrau ei fusnes ei hun."
Roedd gan Karthik, g诺r Kala, eisoes wybodaeth am y diwydiant TG a diddordeb ynddo, ac wrth astudio yn Ysgol Gwyddorau Cymhwysol Prifysgol Bangor daeth i ddeall sut i fynd ati i raglennu a datblygu Apps.
Erbyn hyn mae ganddynt eu cwmni eu hunain, , ac maent yn gobeithio datblygu mwy o apps yn y dyfodol.
Daeth Kala i Fangor ar 么l cwblhau dwy flynedd o'i rhaglen radd yn MDIS yn Singapore, mewn cysylltiad 芒 Phrifysgol Bangor.
Meddai Chris Walker, Cynghorwr Busnes i Wasanaethau Cefnogi Menter: "Mae gweithio fel cynghorwr busnes Kala a Karthik wedi bod yn brofiad diddorol a gwerthfawr. Fe wnaethom ddechrau gydag egin syniad yn unig, gan symud ymlaen i ddatblygu App unigryw sy'n datrys y broblem o gofio lle rydych wedi rhoi pethau. Mae'n arbennig o ddefnyddiol i nodi manylion ynghylch lleoliad eitemau gwerthfawr, fel gemwaith neu ddogfennau pwysig fel ewyllys, manylion morgais, pasborts etc.
Ein proses oedd sicrhau bod yr App yn ymarferol yn ariannol a datblygu cynllun marchnata a nodi dulliau marchnata, targedu cwsmeriaid etc. Mae'r App yn awr yn barod, a hynny'n sydyn tu hwnt. Dim ond pedwar mis gymerodd y broses gyfan.鈥
Dywedodd Lowri Owen, Cydlynydd Projectau Menter ym Mhrifysgol Bangor: 鈥淢ae Byddwch Fentrus yn hynod falch o'r cyfle i helpu Kala i ddatblygu ei menter newydd. Mae'r gefnogaeth fentora a'r gweithdai arbenigol a ddarparwyd drwy'r Rhaglen Cefnogi Menter, a gyllidir gan HEFCW, yn amlwg wedi bod o fudd i Kala ac mae ei dyfalbarhad a'i gwaith caled ei hun wedi bod yn allweddol i'w galluogi i wireddu'r syniad busnes yma mewn cyfnod mor fyr."
Gall Byddwch Fentrus helpu myfyrwyr a graddedigion sydd eisiau datblygu eu syniadau busnes trwy wahanol gynlluniau a gyllidir gan HEFCW a Llywodraeth Cymru, megis mentora personol, a gweithdai a digwyddiadau arbenigol, rhyngweithiol ac ymarferol.
Gwerthir yr App fel App Iphone am $0.99 yr un. Gellwch brynu'r App yma
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013