Newyddlenni
Myfyriwr o Brifysgol Bangor ar restr fer am wobr genedlaethol
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol.
Mae Matt Day, 23, o Southampton wedi cyrraedd rhestr fer bwrsariaeth wedi’i noddi am gyfraniad eithriadol yng Ngwobrau Cenedlaethol Cymdeithasau UCM (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr), y digwyddiad cenedlaethol cyntaf i roi cydnabyddiaeth i gymdeithasau undebau myfyrwyr am eu cyfraniad i ragolygon gyrfa a phrofiad myfyrwyr dros eu cyfnod yn y brifysgol.
Mae Matt newydd ei ethol yn Is-lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned Undeb Myfyrwyr Bangor ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-2017.
Ar hyn o bryd, mae Matt ar gwrs TAR Gwyddoniaeth Uwchradd yn yr Ysgol Addysg ac fe raddiodd gyda gradd MEng mewn Peirianneg Electronig yn 2015. Mae wedi gweithio gyda’r Gymdeithas Criw Llwyfan (a elwir bellach yn Titan Sounds and Light) ac wedi ehangu a datblygu’r gymdeithas i’r fath raddau ei bod bellach yn cefnogi’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau a drefnir gan fyfyrwyr a’r Brifysgol.
Dywedodd Matt: "Rwy'n edrych ymlaen at glywed am y gwaith gwych a wneir gan gymdeithasau myfyrwyr eraill yn genedlaethol er mwyn gallu ymgorffori rhai o'r syniadau hynny i’m gwaith dros y flwyddyn i ddod."
Dywedodd Mark Stanley, Is-lywydd presennol Cymdeithasau a'r Gymuned: "Rwy'n hynod o falch bod Matt yn cael ei gydnabod am ei waith gyda chymdeithasau yn y Gwobrau eleni. Ers iddo ddod i Fangor, mae wedi rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr gyda’u digwyddiadau dro ar ôl tro a sicrhau eu bod yn achlysuron arbennig."
Os bydd Matt yn ennill, bydd ef a'r Gymdeithas yn cael gwobr ariannol yn ogystal â’r profiad amhrisiadwy o fynd i’r seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ar 4 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2016