Newyddlenni
Labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear yn buddsoddi mewn ymchwilwyr doethurol
Hefyd, mae eu huwch arweinydd technegol, Dave Goddard, i fod yn athro gwadd mewn tanwydd niwclear yn y Brifysgol.
Yn ogystal, y mae’n cynyddu cyllid ar gyfer ymchwil a datblygiad niwclear ym Mhrifysgol Bangor o dan Raglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
Dywedodd Paul Howarth, Prif Swyddog Gweithredol yr LNC:
“Credwn y gall ac y dylai Cymru fod yn ardal flaenllaw ar gyfer technolegau ynni glân - nid yn unig o ran niwclear ond hefyd o ran ffynonellau gwynt, solar a ffynonellau carbon isel eraill - ac, yn y broses, feithrin y gadwyn gyflenwi leol gan ddarparu mwy o swyddi gwyrdd o safon uchel a chyflogau uchel.”
Bydd y datblygiadau diweddaraf yn ymestyn capasiti’r Brifysgol mewn ymchwil a datblygiad niwclear yn Sefydliad Dyfodol Niwclear y Brifysgol.
Daeth y cyhoeddiad law yn llaw a chyhoeddiad bod y LNC yn buddsoddi mewn partneriaeth sgiliau gyda Grŵp Llandrillo Menai - grŵp coleg mwyaf Cymru.
Dywedodd Bill Lee, Athro Sêr Cymru yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol Bangor:
“Dyma ddechrau perthynas agos rhwng yr LNC a Phrifysgol Bangor i gefnogi datblygiad pob ffurf o ynni carbon isel ar gyfer Gogledd Cymru. Rydym yn hynod falch o’r cyfleoedd ymchwil a hyfforddi a fydd yn ein galluogi i gydweithio gyda’r LNC yn ogystal â Grŵp Llandrillo Menai.”
I gydnabod effaith a gwerth Cymru fel canolfan gwyddoniaeth ac arloesi niwclear, agorodd yr LNC ei safle ffurfiol gyntaf yng Nghymru yn M-Sparc, parc gwyddoniaeth y Brifysgol ar Ynys Môn yr haf hwn.
Gyda’i gilydd bydd y datblygiadau hyn yn cynorthwyo i feithrin y genhedlaeth nesaf o unigolion medrus a phontio gagendor sgiliau'r diwydiant niwclear. Ac eto, mae'r sector niwclear yn wynebu’r her o weithlu sy'n heneiddio, gan adael y diwydiant gyda gagendor sgiliau. Cyfartaledd oedran peiriannydd yn y DU yw 54 sy'n golygu bod recriwtio a hyfforddi unigolion medrus yn flaenoriaeth allweddol ar draws pob sector.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2021