Newyddlenni
Hwb i Brifysgol Bangor ar ddechrau tymor newydd
Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil buddsoddiad gan y .
Mae鈥檙 brifysgol wedi penodi pum darlithydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg i weithio ym meysydd , , , a .
Mae Dr Nia Griffith yn hen gyfarwydd 芒鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi iddi dderbyn ysgoloriaeth i gwblhau gradd meistr a doethuriaeth mewn Seicoleg o dan nawdd y Coleg yn 2006. Wedi hynny, bu鈥檔 Gymrawd Dysgu yn yr adran cyn cael ei phenodi鈥檔 ddarlithydd cyfrwng Cymraeg.
Bydd Hayley Roberts yn ymuno ag Adran y Gyfraith wedi cyfnod yn fyfyrwraig yn yr adran. Yn ystod ei doethuriaeth, bu鈥檔 dysgu modiwlau cyfraith contract a masnach trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfraith y m么r yw ei harbenigedd ac mae ganddi ddiddordeb mawr yn llongddrylliad yr RMS Titanic.
Llyr ap Cenydd oedd un o鈥檙 rhai cyntaf i astudio gradd mewn Cyfrifiadureg ym Mangor. Aeth yn ei flaen i gwblhau doethuriaeth yn y maes cyn derbyn swydd fel ymchwilydd yn yr adran. Mae eisoes wedi ennyn profiad o ddysgu a thiwtora myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol.
Treuliodd Beryl Cooledge flynyddoedd yn nyrsio mewn uned gofal dwys cyn mentro i鈥檙 byd addysg a dysgu yng Ngholeg Llandrillo. Fel darlithydd Nyrsio a Gofal Iechyd gyda Phrifysgol Bangor, gobaith Beryl fydd ceisio annog myfyrwyr i gyfathrebu gyda chleifion yn eu mamiaith.
Bydd Sara Closs-Stacey yn ymuno ag Adran Gyfrifeg Prifysgol Bangor fel darlithydd ac yn parhau gyda鈥檌 doethuriaeth o dan nawdd y Coleg Cymraeg. Gobaith Sara yw cyflwyno ei doethuriaeth, sy鈥檔 canolbwyntio ar y system dreth ym Mhrydain yn ystod 2015.
Yn 么l Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
鈥樷楻ydym yn falch iawn bod Prifysgol Bangor wedi llwyddo i benodi鈥檙 academyddion blaengar hyn o dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn dymuno鈥檙 gorau iddynt wrth ymgartrefu ar gampws y Brifysgol. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld cynnydd yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y brifysgol dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i fuddsoddiad y Coleg yn y swyddi hyn.鈥
Meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: 鈥淔el y Brifysgol sy鈥檔 cynnig y nifer mwyaf o gyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg rydym yn eithriadol o falch i groesawu鈥檙 aelodau staff newydd hyn a fydd yn ychwanegu at y ddarpariaeth honno, ac a fydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i鈥檙 gymuned a鈥檙 bywyd Cymraeg a Chymreig ym Mhrifysgol Bangor."
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013