Newyddlenni
Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016
Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i鈥檞 chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi鈥檙 rhestr fer ar gyfer y Gwobrau.
Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol.
Bydd chwe gwobr yn cael eu dyfarnu i unigolion a thimau ymchwil neu brojectau ymchwil penodol. Bydd y Gwobrau yn dathlu llwyddiannau unigol o blith staff darlithio ac ymchwil y Brifysgol ar gyfnodau amrywiol yn eu gyrfaoedd, gan gynnwys s锚r disglair addawol, myfyrwyr doethurol a bydd Gwobr Cyfraniad oes yn cael ei dyfarnu hefyd. Yn ogystal 芒 hyn, bydd dwy Wobr am brojectau neilltuol, un ar gyfer y gwyddorau, ac un arall ar gyfer y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau a鈥檙 Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd hefyd Gwobr ar gyfer Project rhyngwladol ac un Wobr Arbennig am Gyfraniad Oes.
Mae tri ysgolhaig wedi eu gosod ar y rhestr fer ar gyfer Cyfraniad Oes: Yr Athro Judy Hutchings OBE, (Ysgol Seicoleg), sydd yn gyfrifol am ymchwilio a chyflwyno rhaglenni sydd yn gwella canlyniadau oes ar gyfer plant ifanc ac sydd wedi dylanwadu ar bolisi yng Nghymru; Yr Athro John Witcombe, (Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth), sydd wedi gweithio i wella sicrwydd bwyd i filiynau o ffermwyr yn Asia a鈥檙 Athro John Simpson, (Ysgol Gwyddorau Eigion), y gellir dadlau iddo, drwy ei gyfraniadau helaeth yn ystod ei yrfa, greu鈥檙 isadeiledd ar gyfer astudiaethau cyfoes ym maes eigioneg ffisegol.
Ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Wyddoniaeth y mae project sydd wedi arwain at ddealltwriaeth newydd o hediad adar (Dr Charles Bishop, Ysgol Gwyddorau Biolegol); project i wella dealltwriaeth o sut y mae mwd yn symud ar hyd yr arfordir sydd, yn ei dro, yn gwella ein modelau rhagweld ynghylch sut bydd yr arfordir yn newid o ganlyniad i gynnydd yn lefel y m么r (arweinir gan Dr Jaco Baas, Ysgol Gwyddorau Eigion); a datblygiad newydd sydd wedi chwalu ffiniau chwyddiad microsgop (arweinir gan Dr James Wang, Ysgol Peirianneg Electronig).
Bydd darpar enillwyr Gwobr y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas yn deillio o broject sydd wedi gwella hyfforddiant athletwyr el卯t, (Yr Athro Lew Hardy, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer); project sydd wedi newid y modd y mae鈥檙 diwydiant digidol a chyrff rheoli yn ystyried data emosiynol (Dr Andy McStay, Ysgol Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau) a phroject sydd wedi adolygu a dathlu argraffiadau ymwelwyr 芒 Chymru yn ystod cyfnod o 260 o flynyddoedd (arweinir gan yr Athro Carol Tully, Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern).
Mae鈥檙 projectau rhyngwladol sydd ar y rhestr fer yn cynnwys project Ewropeaidd a arweiniwyd gan Brifysgol Bangor (Yr Athro Peter Golyshin, Ysgol Gwyddorau Biolegol) i archwilio amgylcheddau eithafol yn y m么r am ficrobau newydd y gellir y defnyddio mewn biodechnoleg; offer ar gyfer y dosbarth sydd wedi eu dosbarthu i bob ysgol gynradd yn Jamaica er mwyn gwella rhagolygon plant yno (datblygwyd dan arweiniad Dr Helen Henningham, Ysgol Seicoleg) a phroject sydd wedi profi鈥檙 buddion niferus sydd i鈥檞 cael o warchod systemau r卯ff cwrel trofannol (arweinir gan yr Athro John Turner.)
Mae chwe academydd sydd yng nghyfnodau cynnar eu gyrfa ac sydd wedi arddangos addewid i fod yn arweinwyr y dyfodol yn eu maes ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Seren Ddisglair:
Aled Llion Jones, Ysgol y Gymraeg, sydd a phroffil rhyngwladol o ganlyniad i鈥檞 waith sy鈥檔 plethu athroniaeth, theori lenyddol a llenyddiaeth ganoloesol Gymraeg; Kami Koldewyn, Ysgol Seicoleg, sy鈥檔 magu enw da ym maes niwrowyddoniaeth gymdeithasol; James McDonald, Ysgol Gwyddorau Biolegol, sy鈥檔 aelod dylanwadol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ym maes ecoleg meicrobaidd; Yvonne McDermott Rees, Ysgol y Gyfraith, sydd wedi cynnal ymchwil arloesol ym maes cyfraith droseddol rhyngwladol a hawliau dynol 芒鈥檌 gwaith wedi ei ddyfynnu gan Siambr Apelio鈥檙 Llys Rhyngwladol; Andrew Smith, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth am ei alluoedd arbennig wrth arwain projectau ymchwil, sicrhau cyllid ac am ei gyhoeddiadau dylanwadol ym maes coedwigaeth, a Dr Gareth Williams, Ysgol Gwyddorau Eigion, sy鈥檔 datblygu proffil rhyngwladol o ganlyniad i鈥檞 waith ar ecoleg r卯ffau cwrel.
Mae pum myfyriwr doethurol hefyd wedi eu henwebu am wobr, a hynny am ansawdd arbennig eu gwaith. Dyma nhw: Sayma Akhter, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, am ei gwaith ar ddefnydd posib o mango gwyllt, ffrwyth a allai ddarparu incwm i boblogaethau gwledig; Emily Holmes, Ysgol Gwyddorau Iechyd, am ei gwaith ar ddeall ymddygiad wrth gymryd meddyginiaethau; Fritz Kleinschroth, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, am ei waith ar effaith llwybrau torri coed ar fforestydd glaw trofannol; Sebastian Rosier, Ysgol Gwyddorau Eigion, am waith sydd wedi arwain at greu maes ymchwil newydd wrth werthuso nifer y gweryd a godir gan lifoedd rhew yn yr Antarctig; Claire Szostek, Ysgol Gwyddorau Eigion, am ei gwaith gyda physgotwyr y Sianel ar geisio deall lefelau ar gyfer pysgota sgolop yn gynaliadwy yno; Thomas Wilkinson, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, am ei ddoethuriaeth sydd wedi arwain at newid y modd y mae pobl ag arthritis rhiwmatoid yn cael eu hasesu yn lleol, a rhagwelir y bydd y newidiadau hyn yn cael eu mabwysiadu mewn ardaloedd eraill maes o law.
Meddai鈥檙 Athro Jo Rycroft- Malone, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil) ym Mhrifysgol Bangor:
鈥淢ae鈥檙 gwobrau hyn yn rhoi cyfle gwych i ni gydnabod a gwerthfawrogi llwyddiant o fewn y Brifysgol ac arddangos enghreifftiau o ymchwil o ansawdd, y llwyddiannau a鈥檙 talentau sydd gennym o fewn y Brifysgol. Yn ogystal 芒 gwobrwyo鈥檙 timau ac unigolion llwyddiannus, bydd y gwobrau hefyd yn symbyliad i eraill yn y man.鈥
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i鈥檞 chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.
Yn dilyn y noson wobrwyo gyntaf hon, bydd y Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil yn cael eu cynnal bob yn ail blwyddyn 芒 gwobrau Effaith ac Arloesi y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016