Newyddlenni
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014: Trosolwg o Ganlyniadau
O bryd i'w gilydd, mae llywodraeth Prydain yn noddi proses, y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) sy'n graddio'r gweithgarwch ymchwil ymhob prifysgol ym Mhrydain, ac mae'r canlyniadau diweddaraf wedi cael eu rhyddhau yn awr ar gyfer REF 2014.
Mae'r Ysgol Cemeg, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig i gyd yn canolbwyntio llawer iawn ar ymchwil a bu i ychydig dan 90% o'u holl staff academaidd gyflwyno ymchwil.
Fe wnaeth Peirianneg Electronig yn arbennig o dda gyda'i chynnyrch ymchwil yn y 4ydd safle ym Mhrydain.
Cafodd yr holl ymchwil Cemeg ei graddio fel ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol neu well. Mae ansawdd cynnyrch ymchwil yr Ysgol Cemeg wedi gwella gyda 70% yn awr yn y ddau gategori uchaf, sef 'gyda'r orau yn y byd' neu 'yn rhagorol yn rhyngwladol'.
Yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, ystyriwyd bod 65% o'r deunydd ymchwil a gyflwynwyd naill ai o safon gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
Mae'r tair Ysgol yn edrych ymlaen at adeiladu ar y Rhagoriaeth Ymchwil a nodwyd yn REF 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2015