Newyddlenni
Diwrnod cwrdd i ffwrdd rhithiol yr ysgol
Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ei diwrnod cwrdd i ffwrdd diwedd blwyddyn ar 5 Awst 2021. Eleni, oherwydd y pandemig, cynhaliwyd y gweithdy o bell gan ddefnyddio Teams. Ymunodd tri deg o bobl o'r ysgol â’r sesiwn ryngweithiol yn y prynhawn a oedd yn canolbwyntio ar addysgu a dysgu. Croesawodd Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol) bawb i'r digwyddiad a chyflwynodd yr aelodau staff newydd. Cadeirydd y diwrnod oedd Dr Dave Perkins y Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu.
Dywedodd Dr Perkins “Roedd yn wych cael diwrnod cwrdd i ffwrdd a chwrdd â rhai o aelodau newydd y tîm addysgu. Gwnaeth pawb ymddiddori yn y deunydd a mwynhau’r profiad. Roedd gweithgareddau’r diwrnod yn canolbwyntio ar addysgu a dysgu, a llwyddiannau addysgu yn ystod pandemig. Mae'r pandemig wedi tarfu ar y model addysg traddodiadol ym mhob prifysgol, ond rydym mewn sefyllfa unwaith mewn oes lle gallwn wir feddwl am sut rydym yn addysgu a ble a sut mae'r myfyrwyr yn cael gwerth go iawn o'n haddysgu. Ond mae wedi golygu bod yn rhaid i ni feddwl am sut roeddem yn dysgu ein cynnwys, ac rydym wedi gwneud llawer o newidiadau llwyddiannus sydd mewn gwirionedd wedi bod o fudd i fyfyrwyr a'u profiad dysgu." Aeth Dave ymlaen i ddweud, “Wnaeth y diwrnod ein galluogi i drafod a nodi ein llwyddiannau”.
Aelodau'r Ysgol yn trafod ac yn cyfnewid llwyddiannau'r flwyddyn flaenorol
Rhannwyd y digwyddiad yn bedair rhan: (1) rhagarweiniad a thrafodaeth gyffredinol, (2) adfyfyrio ar addysgu'r llynedd, (3) arferion da, yn gyntaf mewn perthynas â chynhwysiant (dan arweiniad Wendy Owen) ac yna addysgu gan ddefnyddio llwyfan dysgu ar-lein Backboard (gan Daniel Roberts), a (4) annog dysgu a gweithredoedd dilys i symud ymlaen.
Dywedodd yr Athro Jonathan Roberts (Athro Delweddu) “Roedd yn ddiwrnod gwych, mwynheais yn fawr ddefnyddio meddalwedd rhannu bwrdd gwyn i rannu ein storïau am lwyddiannau addysgu a dysgu yn ystod y pandemig. Mae Miro yn caniatáu i chi greu a rhannu nodiadau post-it, delweddau ac ati mewn bwrdd rhithiol ar-lein. Gallwch weld pobl eraill yn creu nodiadau a rhoi sylwadau. Mae'n ffordd o weithio ar y cyd ac yn enghraifft arall o'r hyn rydym wedi'i ddysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ddysgu a gweithio ar-lein. Rhannodd Dave ni i grwpiau trafod llai, lle roeddem yn gallu trafod ein llwyddiannau ac unrhyw heriau o ran addysgu yn ystod y pandemig. Roedd yn wych gweld syniadau a storïau am lwyddiannau pobl eraill, ac roedd yn wych gweld rhai pwyntiau gweithredu o'r gweithgaredd hwn."
Dywedodd Peredur Williams “Gyda’r cwrs Dylunio Cynnyrch wedi symud yn swyddogol yn ddiweddar i’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig mae’n amser cyffrous i mi a fy nghydweithiwr Aled Williams. Rydym yn dechrau dod i adnabod holl staff yr ysgol ac yn edrych ymlaen at gydweithio yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Roedd y diwrnod cwrdd i ffwrdd yn ddifyr ac yn addysgiadol, roedd yn gyfle gwych i ddysgu am arferion gorau gan gydweithwyr a fydd yn effeithio ar y profiadau y caiff ein myfyrwyr yn ystod eu hamser gyda ni ac yn eu hatgyfnerthu”.
Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol) a ddaeth â’r diwrnod i ben trwy ddiolch i bawb am ddod a dywedodd, “Mae'r academyddion wedi perfformio'n rhagorol mewn sefyllfa a oedd yn anodd iawn i lawer. Mae llawer o arferion da wedi datblygu o’r addysgu yn ystod pandemig, ac roedd yn wych eu rhannu a'u trafod yn niwrnod cwrdd i ffwrdd yr ysgol. Wrth symud ymlaen mae gennym lawer o newidiadau cyffrous i'r ysgol, gyda Dylunio Cynnyrch bellach yn rhan o'r ysgol, ehangu ein cyrsiau fel y radd Gemau Cyfrifiadurol, cyrsiau gradd prentisiaethau newydd, ac ati. Gallaf weld y bydd 2021/22 yn flwyddyn gyffrous arall, ac edrychaf ymlaen at adfyfyrio ar fwy o lwyddiannau yn y diwrnod cwrdd i ffwrdd y flwyddyn nesaf.”
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2021