Newyddlenni
Dathlu llwyddiant y myfyrwyr sy’n graddio yn 2021
Ddydd Gwener yr 2il o Fehefin 2021, cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddathliad ar-lein i'r myfyrwyr sy’n graddio eleni. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Zoom, a chafodd ei ffrydio'n fyw ar YouTube a Facebook. Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig) oedd yn arwain y dathliad.
Dywedodd Dr Pierce “Mae pob un o’n myfyrwyr yn fuddugwyr, ond yn y dathliad ar-lein ddydd Gwener, roeddem yn cyflwyno gwobrau i fyfyrwyr a oedd wedi cael llwyddiant arbennig neu a oedd wedi llwyddo er gwaethaf sefyllfaoedd heriol. Rydym yn edrych ymlaen at weld pob un o’n myfyrwyr yn y cnawd pan fyddant yn graddio, mewn digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf, ond fe wnaethom benderfynu y byddem yn dathlu eu llwyddiannau hefyd mewn digwyddiad ar-lein eleni”.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan wahanol academyddion, er mwyn dathlu llwyddiant y myfyrwyr a chydnabod sut y gwnaeth rhai myfyrwyr frwydro yn erbyn heriau mawr, gan barhau i gyflawni’n academaidd i safon uchel. Dywedodd yr Athro Jonathan Roberts, sy’n cadeirio’r pwyllgor gwobrau a chydnabyddiaeth, “Roedd yn dda clywed rhai o’r straeon y tu ôl i’r gwobrau hyn. Er enghraifft, mae gwobr (neu W.E. fel y câi ei adnabod), yn anrhydeddu un o arloeswyr cynnar Prifysgol Bangor. Derbyniodd W.E., a oedd yn fyfyriwr lleol a ddaeth i Fangor ym 1897 i astudio Gwyddoniaeth, ei hun wobr R.A. Jones ym maes mathemateg (a oedd werth £16 ym 1900) a daeth yn Athro mewn Peirianneg Trydanol. Trwy ei ymchwil, cafodd ei wneud yn Gymrawd Prifysgol Cymru, gan gynnal ymchwil ym meysydd awyrenneg, trydan dŵr, radio a theledu. Dyfernir gwobr Jane Rudall am gyflawniad a chynnydd, ac mae’n anrhydeddu darlithydd poblogaidd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a gollodd, gwaetha’r modd, ei brwydr yn erbyn chanser yn 2010. Rydym yn llongyfarch pob un o’n myfyrwyr am eu llwyddiannau, ac yn enwedig felly y myfyrwyr y dyfarnwyd gwobrau iddynt.”
Dywedodd Dr Franck Vidal (Uwch ddarlithydd a swyddog arholiadau’r Ysgol) “Mae hi bob amser yn wych dathlu gyda’n myfyrwyr. Fel swyddog arholiadau rwy'n falch dros y myfyrwyr pan fyddant yn cyflawni pethau gwych, a phan fydd yr holl arholiadau'n rhedeg yn esmwyth. Anrhydedd i mi eleni oedd cael cyflwyno gwobr Jan Abas i fyfyriwr am gyflawni ym maes graffeg gyfrifiadurol. Rwy'n dysgu'r modiwl Gweledigaeth Gyfrifiadurol yn y flwyddyn olaf, ac roedd marcio gwaith pob un o’r myfyrwyr yn bleser. Eleni, roedd llawer o fyfyrwyr wedi gwneud gwaith rhagorol ym maes graffeg cyfrifiadurol.”
Cyflwynwyd mwy na phedair ar ddeg o wobrau yn y dathliad ar-lein.
- Rydym yn dyfarnu Gwobr J H Gee, am berfformiad rhagorol mewn mathemateg sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura, ar y cyd i Sophie Jolley a Jake Vardy.
- Dyfernir gwobr W. E. Williams, i'r myfyriwr gorau yn yr ail flwyddyn ar gwrs BSc neu BEng, i David Batty.
- Dyfernir gwobr R H C Newton, i’r myfyriwr gorau yn yr ail flwyddyn ym maes mathemateg mewn peirianneg i Yangming Wang.
- Dyfernir Gwobr Goffa Paul Green, i'r myfyriwr israddedig mwyaf teilwng yn eu project blwyddyn olaf, i Pablo Martinez O'Reilly.
- Cipiodd Sabrina Zulkifli Wobr R A Jones, am hyfedredd mewn Mathemateg sy'n gysylltiedig â Pheirianneg.
- Dyfernir gwobr Dr David Owen (ffiseg) i Chris Hurford. A hynny am berfformiad rhagorol mewn ffiseg yn y cwrs peirianneg.
- Dyfernir gwobr Ada Lovelace, i’r fyfyrwraig fwyaf teilwng mewn peirianneg, i Sabrina Zulkifli.
- Dyfernir gwobr Ada Lovelace, i’r fyfyrwraig fwyaf teilwng mewn cwrs Cyfrifiadura, ar y cyd i Alexandra Mitu, a Pearl Natasha.
- Haul Hanzhe enillodd wobr y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a ddyfernir i’r myfyriwr gorau yn y flwyddyn olaf ar gwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad.
- Cafodd Armandas Bespalovas ganlyniadau rhagorol ym mhob un o’i fodiwlau, yn enwedig mewn graffeg gyfrifiadurol, a dyfernir Gwobr Graffeg Gyfrifiadurol Jan Abas iddo, am arddangos y defnydd a'r ddealltwriaeth orau o graffeg gyfrifiadurol neu dechnolegau cysylltiedig ym mlwyddyn olaf ei gwrs.
- Bob blwyddyn dyfernir Gwobr Dr Jane Rudall am Gyflawniad a Chynnydd i fyfyriwr sydd wedi gwneud cyflawniadau sylweddol a dangos cryn benderfyniad ac ymdrech wrth astudio. Eleni rhoddir gwobr Jane Rudall i Mercy Opawole.
- Dyfernir gwobr Goffa'r Athro David Last, i’r myfyriwr sydd wedi dangos y gwelliant mwyaf yn yr ysgol, i Maria Taggart.
- Dyfernir y wobr i'r myfyriwr mwyaf teilwng ar gwrs cyfrifiadurol i Samuel Hennessey.
- Rhoddir y wobr am deilyngdod o fewn prentisiaethau gradd i Spencer Kenny.
Dywedodd Dr David Perkins (Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu) “Roedd yn arbennig o wych dathlu gyda’n myfyrwyr yn y digwyddiad rhithwir yma, ar ôl blwyddyn o astudio o bell yn bennaf. Rydym yn llongyfarch ein holl fyfyrwyr ar eu llwyddiant eleni, ac yn edrych ymlaen at eu gweld, yn y cnawd, yn y seremoni raddio y flwyddyn nesaf. Llongyfarchiadau i Ddosbarth 2021.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2021