Newyddlenni
Dathlu ein myfyrwyr sy'n graddio (Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig)
鈥淒osbarth 2019 rydym yn eich cymeradwyo, ac yn eich llongyfarch ar eich cyflawniadau, a鈥檙 gwobrau yr ydych wedi鈥檜 hennill.鈥
Rydym yn dathlu cyflawniadau ein graddedigion, ac yn rhoddi gwobrau i rai o'n myfyrwyr mwyaf teilwng. Eleni, roedd gennym dros 120 o fyfyrwyr yn pasio trwy ein seremoni raddio. Mae pob myfyriwr wedi gwneud ei siwrnai ei hun; dysgu sgiliau newydd, ennill gwybodaeth a chymhwyso eu sgiliau i broblemau heriol. Byddant yn gallu defnyddio'r sgiliau y maent wedi'u dysgu yn eu gyrfaoedd. Mae rhai myfyrwyr wedi goresgyn rhwystrau personol, ac wedi cyflawni pethau ymhell y tu hwnt i'r hyn yr oeddent yn credu oedd yn bosibl.
Rydym yn falch o bob un o'u llwyddiannau a'u cyflawniadau unigol. Fel rhiant yn gweld eu plentyn yn mynd i'r Brifysgol, rydym ni, fel academyddion, yn teimlo llawer o emosiynau. Rydym yn hapus i weld y myfyrwyr yn cyflawni, ond yn drist eu gweld yn mynd. Rydym yn falch o'u cyflawniadau, ac yn dymuno'n dda iddynt wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau yn eu gyrfaoedd.
Bob blwyddyn, yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, rydym yn rhoddi gwobrau ac yn cydnabod y perfformiad academaidd gorau. Rydym yn cydnabod myfyrwyr gorau'r Ysgol, a'r rhai sydd wedi gweithio'n galed ac wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylid ganddynt. Eleni rhoesom wobrau i dri ar ddeg o fyfyrwyr, a rhoddwyd gwobr y Brifysgol i ddau o'n myfyrwyr, gan y Senedd i'r perfformiad academaidd mwyaf teilwng.
- Enillodd Ed Waller (Peirianneg Electronig BENG)Wobr Goffa Paul Green, am y project mwyaf teilwng blwyddyn olaf israddedig mewn Peirianneg Electronig.
- Cipiodd Zhongbin Zhao(Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol BENG) wobr a noddir gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) am y myfyriwr blwyddyn olaf gorau ar gwrs achrededig IET.
- Enillodd Sabrina Zulkifli (MENG Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol) Wobr R A Jones, am hyfedredd mewn mathemateg, ar unrhyw raglen Fathemateg sy'n gysylltiedig 芒 Pheirianneg.
- Enillodd Xianghui Zheng(BSC Peirianneg Electronig) wobr RHC Newton am y myfyriwr mathemateg ail flwyddyn gorau mewn unrhyw bwnc sy'n gysylltiedig 芒 pheirianneg
- Enillodd Manabat Cedric(MENG Peirianneg Electronic) wobr Dr David Owen (o blith unrhyw flwyddyn) am berfformiad rhagorol mewn ffiseg ar unrhyw gwrs peirianneg.
- Ar y cyd enillodd Martha Mason (BSc, Systemau Gwybodaeth Gyfrifiadurol) a Jiaxiang He (BSc, Peirianneg Electronig) Wobr Ada Lovelace i'r fenyw fwyaf teilwng mewn Peirianneg.
- Enillodd Tomos Slater(BSc, Cyfrifiadureg) Wobr Graffeg Gyfrifiadurol Jan Abas, am arddangos y defnydd a'r ddealltwriaeth orau o Graffeg Gyfrifiadurol neu dechnolegau cysylltiedig ym mlwyddyn olaf eu cwrs.
- Enillodd Jack Tomkins(BSc, Cyfrifiadureg) Wobr J H Gee, am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg sy'n gysylltiedig 芒 Chyfrifiadura
- Llongyfarchiadau i Turki Alharbi(BSc Cyfrifiadureg) a Daniel Hunan (BSc Systemau Gwybodaeth Gyfrifiadurol) am ennill Gwobr Dr Jane Rudall am Gyflawniad a Chynnydd, a roddir i fyfyriwr sydd wedi cyflawni'n sylweddol ar 么l dilyn eu hastudiaethau gyda phenderfyniad ac ymdrech neilltuol.
- Enillodd Levi Roques-Nunes(BSc Cyfrifiadureg), wobr a noddir gan Gymdeithas Gyfrifiaduron Prydain (BCS), i'r Myfyriwr Gorau sy'n Graddio ar Gwrs sy'n achrededig gan y BCS.
- Enillodd Conor Spann(BSc Cyfrifiadureg) wobr am y myfyriwr a wellodd fwyaf.
Bob blwyddyn mae Senedd y Brifysgol yn cynnig gwobrau i'r perfformiad academaidd mwyaf teilwng. Ystyriodd y pwyllgor ymgeiswyr o bob pwnc yn y Brifysgol. Yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig rydym yn falch o gyhoeddi bod dau o'n myfyrwyr wedi derbyn y gwobrau hyn.
- Llongyfarchiadau i Levi Roques-Nunes (BSc, Cyfrifiadureg) ar ennill gwobr Agored Dr John Robert Jones, a roddir gan y Senedd i'r perfformiad academaidd mwyaf teilwng.
- Llongyfarchiadau i Cai Williams(MENG, Peirianneg Electronig) a enillodd wobr Gymreig Dr John Robert Jones, a roddir gan y Senedd i'r perfformiad academaidd mwyaf teilwng.
Dymunwn yn dda i'n holl fyfyrwyr sy'n graddio, 鈥渓longyfarchiadau a dymuniadau gorau鈥.
Gan: Jonathan Roberts a Dave Perkins.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2019