Newyddlenni
Darganfod ffyrdd newydd o adnabod a thrin canserau mwyaf heriol yr ymennydd
Mae mawr ar draws Ewrop yn defnyddio technoleg newydd i fynd i鈥檙 afael 芒 dau o ganserau mwyaf ymosodol yr ymennydd.
Mae鈥檙 project ymchwil yn cyfuno arbenigedd biolegwyr a pheirianwyr electronig blaenllaw er mwyn datblygu dyfeisiau microtechnoleg arloesol fydd yn y pen draw yn gallu adnabod a thrin b么n-gelloedd canser Glioblastoma multiforme a Medulloblastoma.
Bellach mae gwyddonwyr yn credu bod b么n-gelloedd yn chwarae rhan yn ailymddangosiad rhai canserau, gan gynnwys y ddwy ffurf ymosodol yma, wrth iddynt wrthsefyll triniaethau presennol ac achosi i鈥檙 tiwmor aildyfu. Mae triniaethau confensiynol yn targedu celloedd gwahaniaethol sy鈥檔 lluosogi鈥檔 gyflym, yn hytrach na b么n-gelloedd cwsg canser, sydd hefyd yn anodd eu hadnabod ar sail dulliau labelu safonol.
Un o dargedau datblygu cyntaf y project hwn yw creu dull 鈥榣abordy ar sglodyn鈥 cyflym, cludadwy a dibynadwy fydd yn adnabod y math o gelloedd canser sydd dan sylw yn gyflym. Bydd hyn yn datrys problem yr oedi presennol cyn gwneud diagnosis. Ar 么l cael biopsi, gall gymryd hyd at 40 diwrnod i adnabod b么n-gelloedd tiwmorau ymennydd gan ddefnyddio dulliau labordy traddodiadol.
Y ffordd o adnabod y math o gell canser yw trwy wahaniaethu rhwng y celloedd yn 么l sut maent yn symud neu鈥檔 adweithio pan fydd meysydd electromagnetig anioneiddiol yn cael eu cyflwyno iddynt ar wyneb y sglodyn. Mae鈥檙 peirianwyr electronig yn gallu gwahaniaethu rhwng celloedd iach a gwahanol fathau o gelloedd canser trwy'r ffordd maent yn adweithio i'r tonnau electromagnetig yn y rhychwantau microdon ac optegol, ac maent yn gobeithio datblygu hyn ymhellach er mwyn adnabod 鈥榣lofnod鈥 electromagnetig b么n-gelloedd canser.
Trwy wneud defnydd o鈥檙 ffyrdd penodol y mae celloedd yn symud ac yn adweithio, yn eu gwaith micro labordy, mae'r ymchwilwyr hefyd yn anelu at niwtraleiddio b么n-gelloedd canser yn benodol yn y sglodyn. Yn y pen draw bydd hyn yn ysgogi datblygu offer electrolawdriniaethol newydd i drin y b么n-gelloedd canser ar safle'r tiwmor.
Mae鈥檙 gwaith yn dod yn ei flaen yn dda, ac yn ddiweddar mae鈥檙 partneriaid ymchwil ym Mhrifysgol Limoges wedi cyrraedd carreg milltir, wrth iddynt defnyddio sglodyn microsgopig yn llwyddiannus i ddidoli celloedd Glioblastoma trwy ymbelydredd yn 么l eu gallu i wrthsefyll triniaeth a'u hymosodedd.
Meddai Dr Arnaud Pothier o Limoges 鈥淩ydym yn fodlon iawn ar ddatblygiad y project hyd yma. Mae鈥檙 project cydweithredol wedi cyrraedd y cyfnod mwyaf allweddol a dwys ac mae'r canlyniadau cychwynnol yn addawol iawn. Ein gobaith yw y byddwn yn parhau i lwyddo mewn maes heriol lle mae'r opsiynau presennol am ddiagnosis a thriniaeth yn gyfyngedig."
Er y bydd rhai blynyddoedd yn mynd heibio cyn y gw锚l y labordy ar sglodyn a'r offeryn triniaeth olau dydd, mae鈥檙 ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yng Nghymru, Prifysgol Limoges yn Ffrainc, IHP Microelectronics yn yr Almaen a Phrifysgolion Padua a Rhufain yn yr Eidal yn gweithio gyda Creo Medical, cwmni a鈥檌 bencadlys yn ne Cymru, sydd 芒 hanes cadarn o ddatblygu a gwerthu dyfeisiau meddygol sy鈥檔 gallu cyfeirio egni microdon at darged penodol iawn i drin achosion megis canserau'r fron a'r coluddion.
Yn ei waith gyda microbiolegwyr ym mhrifysgolion Padua a Limoges, mae Dr Cristiano Palego yn Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn defnyddio ei arbenigedd ym maes microelectroneg yn y project.
Wrth roi sylwadau ar lwyddiant cynnar y project, dywedodd fod cam cyntaf y project yn dod yn ei flaen yn dda, er gwaethaf dulliau gweithio pur wahanol biolegwyr a pheirianwyr.
鈥淢ae gweithio mewn partneriaeth ymchwil gyda鈥檙 lled a dyfnder arbenigedd presennol yn rhoi boddhad mawr, ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at y camau technolegol ac arbrofol nesaf鈥, meddai.
Cyllidir y project ymchwil arloesol hwn gan Raglen Fframwaith Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd am gyfnod o 42 o fisoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018