Newyddlenni
Cymru'n arwain y ffordd ym maes gwyddoniaeth goleuni
Cafodd project cyffrous newydd i Gymru gyfan ei lansio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae鈥檙 project, CAMPUS (CApability Matrix for Photonics Up Skilling neu Matrics Galluoedd Gwella Sgiliau Ffotoneg), dan arweiniad Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor, yn canolbwyntio ar gydweithio efo cwmn茂au o Gymru. Nod y project yw sicrhau bod ymchwil arbenigol ac offer datblygol, cyfleusterau a staff ar gael yn arbennig i gwmn茂au ffotoneg yng Nghymru er mwyn sefydlu Cymru fel arweinydd yn y maes.
Fel yr esboniodd yr Athro Alan Shore, sy鈥檔 arwain y project o y Brifysgol:
鈥淔fotoneg yw gwyddoniaeth trin golau. Mae鈥檙 diwydiant wedi bod yn amlwg yng Nghymru o鈥檙 dechrau. Amcangyfrifwyd mewn adroddiad diweddar gan y Comisiwn Ewropeaidd fod gwerth y farchnad Ewropeaidd ar gyfer Ffotoneg tua 拢58.5 biliwn, sef 21% o farchnad y byd. Yn fyd-eang, mae'r diwydiant yn gyfrifol am werthiannau o tua 拢3 triliwn a 30 miliwn o swyddi. Mae gan Gymru鈥檔 6% o ran o'r farchnad hynod bwysig hon. Mae ffotoneg yn berthnasol i bob sector o'r farchnad, o gynhyrchu sgriniau teledu a chwaraewyr 鈥榖lue ray鈥 neu dvd i oleuo cartrefi a鈥檙 electroneg mewn ceir, yn ogystal 芒 maes meddygaeth, lle mae laserau鈥檔 cael eu defnyddio i drin pob math o anhwylderau, a dyfeisiau delweddu鈥檔 cael eu defnyddio ar gyfer diagnosteg. Mae鈥檔 anodd credu bod tua un rhan o dair o gost car yn deillio o鈥檙 elfennau ffotoneg sydd ynddo; o鈥檙 goleuadau 鈥榣ed鈥 at sgriniau arddangos ac yn y blaen... Mae'r diwydiant yn arbennig o bwysig wrth i ddefnyddio llai o drydan i gael dyfodol mwy cynaliadwy gael sylw cynyddol. Gall gynnig electroneg a goleuo sydd yn defnyddio llai o ynni, a gall hyn fod o bwys strategol.鈥
Mae'r project CAMPUS wedi agor drysau sefydliadau Addysg Uwch Cymru i gwmn茂au o Gymru, gan ddarparu offer arbenigol i鈥檞 defnyddio ar draws Cymru. Mae'r math o offer sydd bellach ar gael mor arbenigol fel y byddai鈥檔 rhaid i鈥檙 cwmn茂au fuddsoddi'n drwm er mwyn prynu dim ond un darn o鈥檙 offer. Bellach, trwy Brifysgol Bangor a'i phartneriaid, mae鈥檔 bosibl i gwmn茂au ar draws Cymru ddefnyddio鈥檙 offer.
Mae cynllun o鈥檙 arbenigedd sydd ar gael i鈥檞 weld ar wefan Bangor bangor.ac.uk / ee o dan yr adran fusnes. Dylai unrhyw gwmni sy'n dymuno cymryd rhan gysylltu 芒'r Athro Alan Shore yn Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol ar 01248 382618, e-bost k.a.shore@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Awst 2012