Newyddlenni
Cyflwyno i Robot! - defnyddio robotiaid i wneud cyflwyniadau gradd
Yn ystod y pedwar diwrnod cyntaf ym mis Mehefin, cyflwynodd myfyrwyr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mangor eu gwaith project o flaen eu marcwyr. Roedd un o'r academyddion oedd yn marcio yn gweithio o bell (ac yn ymddangos yn y robot tele-weithredol); roedd y llall yn bresennol yn yr ystafell.
Roedd myfyrwyr wedi gweithio'n galed ar eu projectau blwyddyn olaf unigol. Fel llawer o brifysgolion, mae myfyrwyr yn cyflwyno eu traethawd project blwyddyn olaf ar ffurf cyflwyniad llafar. Dywedodd Dr Dave Perkins (Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu yr Ysgol) “Mae bob amser yn bleser gwrando ar y myfyrwyr yn siarad am eu gwaith. Mae’r cyflwyniad llafar am eu project blwyddyn olaf yn aml yn un o'u gweithgareddau olaf i gael eu marcio, cyn iddynt ein gadael a chael swydd neu wneud fynd ymlaen i astudiaethau pellach. Mae'n gyfle iddynt egluro eu gwaith project, rhoi arddangosiad ac ateb cwestiynau am eu gwaith. Eleni roeddem yn meddwl y byddem yn ymateb i'r her a osodwyd gan Covid ac yn uwchraddio i brofiad llafar hybrid, gan uno'r byd digidol a'r byd go iawn. Roedd yn golygu y gallem greu amgylchedd diogel Covid gan roi cyfle i'r myfyrwyr siarad am eu project”.
Meddai Dr Cameron Gray (cyd-arweinydd ar y modiwl project unigol) “Mae'r robotiaid hyn yn wych. Gallwch gerdded o amgylch yr ysgol, tra’n eistedd gartref. Gwnaethom eu gosod yn yr ystafelloedd cyflwyno, a gallai’r academyddion fod yn bresennol o bell, clywed y cyflwyniadau a gofyn cwestiynau.”
Parhaodd yr amserlen gyflwyno trwy'r wythnos. Rhoddwyd slot 40 munud i bob myfyriwr. Gwnaethant gyflwyno eu cyflwyniad cyn yr arholiad llafar, er mwyn helpu i leihau’r posibilrwydd o drosglwyddo Covid, yna roeddent yn rhoi eu cyflwyniad 10 munud, ateb cwestiynau, gydag amser wedyn i’r bysellfwrdd gael ei ddiheintio cyn y myfyriwr nesaf.
Dywedodd Daniel Farmer (myfyriwr trydedd flwyddyn yn astudio BSc Cyfrifiadureg), a gyflwynodd ei waith project o'r enw 'Defnyddio injan gemau i fodelu lledaeniad firws,' “Roedd yn fraint cyflwyno fy ngwaith project. Mae'r robotiaid hyn yn wych. Roedd yn golygu bod Yr Athro Roberts yn gallu neidio i mewn i'm cyflwyniad o bell. Roedd ef gartref, tra roeddwn i a Dr Ritsos yn yr ystafell. Gallaf ddychmygu defnyddio’r system hon at lawer o ddibenion, a’r ffordd y gall y dyfeisiau hyn fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol.”
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2021