Newyddlenni
Chwyldroi'r ffordd yr ydym yn edrych ar ddata
Gallai system wybodaeth 3D rhithrealiti newydd ar y we chwyldroi’r ffordd yr ydym yn gweld ac yn rhyngweithio â’n data, yn ôl yr arbenigwyr gwyddoniaeth gyfrifiadurol o Brifysgol Bangor a’i datblygodd.
Gellir cymhwyso gwaith ymchwil y tîm i faes 'Dadansoddeg Droch', wnaethpwyd ar y cyd a Phrifysgol Caer, i feysydd amrywiol iawn. Drwyddynt, fe ellir cyflwyno ac archwilio yr hyn y gall data ei ddysgu i ni mewn ymchwil wyddonol a'n bywydau bob dydd, i gyd mewn porwr gwe ar gyfrifiaduron personol, dyfeisiau symudol ac mewn cyfryngau rhithrealiti.
Gwnaed hyn yn bosibl gan y Dr Panos Ritsos a’r Dr Peter Butcher o Brifysgol Bangor, a gellir defnyddio eu system i greu haenau gwybodaeth wedi eu cynhyrchu gan gyfrifiadur yn seiliedig ar ddata. Gellir gweld yr haenau hyn ar ben nodweddion o’n byd diriaethol a hynny drwy ffôn clyfar neu ddyfais y gellir ei wisgo ar eich pen. Er enghraifft, gall defnyddwyr weld proffil ynni eiddo y maent ar fin ei rentu, neu’r data ynglŷn â throseddau ar y stryd honno - fel graffeg gyfrifiadurol a gaiff ei harddangos ar ben y tŷ neu'r stryd.
Meddai Dr Panos Ritsos o Brifysgol Bangor, "Mae'n ymwneud â chreu haenau o wybodaeth sy’n seiliedig ar ddata ac y gellir eu harosod ar ben nodweddion ein byd diriaethol. Gall fod yn unrhyw fath o ddata sy'n gysylltiedig â lle penodol y gellir ei arddangos wedyn ar y sgrin a mynd ato pan rydych chi yn y lleoliad, neu o bell.
“Rydym ni'n creu teclyn lle gall pobl arddangos gwybodaeth mewn rhithrealiti pan nad ydyn nhw yn y lleoliad hwnnw mewn gwirionedd, neu mewn realiti estynedig pan maen nhw yn y lleoliad ond eisiau i brofiad y defnyddiwr gael ei wella gan wybodaeth wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur."
Ers ei arddangos yng nghynhadledd delweddu data fwyaf y byd, mae eu gwaith, a alwyd yn VRIA - Virtual Reality Immersive Analytics neu Ddadansoddeg Drochi Rhithrealiti - wedi ei lawrlwytho fwy na 3,000 o weithiau.
Ychwanegodd Dr Ritsos, fu'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith: “Dyluniwyd VRIA i fod yn hygyrch i ddefnyddwyr newydd ac arbenigol. Nid yw ein gwaith yn ymwneud cymaint â chymwysiadau neu ddefnyddiau ond yn hytrach â chreu'r dechnoleg i eraill ei defnyddio, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda phobl mor amrywiol ag eigionegwyr, amgylcheddwyr, a phersonél iechyd a diogelwch."
Dywedodd Dr Butcher, y datblygwr sy’n gyfrifol am VRIA: “Mae VRIA yn darparu ffordd rwydd i’r rhai sydd eisiau cael eu trochi yn eu data a defnyddio dulliau delweddu trochi newydd trwy eu porwr gwe.
“Mae'n arbennig o effeithiol mewn byd wedi ei effeithio gan bandemig lle gallwch chi greu a defnyddio'r profiadau hyn gartref yn hawdd iawn.
“Yn y dyfodol agos, bydd technolegau rhwydwaith, fel 5G, yn gwneud cymwysiadau o'r fath yn llawer amlycach ac yn haws ymgolli ynddynt. Rydym ni’n un o'r ychydig brifysgolion sy'n gweithio ar y dechnoleg flaengar hon, ochr yn ochr â sefydliadau fel W3C, Google, Microsoft a Mozilla."
Mae offeryn adeiladwr delweddu ar-lein VRIA ar gael fel . Mae'r offeryn hefyd yn cynnwys rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) ar gyfer datblygwyr mwy profiadol. Mae'r cod ffynhonnell hefyd ar gael ar , cadwrfa boblogaidd ar gyfer codio cydweithredol.
I wybod mwy am gyrsiau Ysgol Gyfrifiadureg a Pherianneg Electroneg Prifysgol Bangor cliciwch yma
Mae Prifysgol Bangor yn cynnwys is-radd (BSc) Gwyddorau data a Delweddu
Gellir ddarganfod astudiaethau Ôl-raddedig Ysgol Gyfrifiadureg a Pheirianneg Electroneg Prifysgol Bangor yma
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2021