Newyddlenni
Cangen myfyrwyr IEEE Bangor yn cynnal ei hail ddarlith wadd
Cynhaliwyd ail ddarlith wadd cangen myfyrwyr Prifysgol Bangor ar-lein ar 24 Chwefror 2021. Cymerodd dros ddeg ar hugain o fyfyrwyr ran yn y digwyddiad a gwrando ar ddwy sgwrs. Siaradodd Shaun Preston () a Pete Doggart ( ac ACE45) am eu profiadau yn symud o'r byd academaidd i ddiwydiant.
Graddiodd Shaun Preston gyda PhD ar ôl ymchwilio i strwythur cyfechelog newydd a'i ddefnydd mewn offerynnau haemostatig. Mae bellach yn Bennaeth Datblygu Offerynnau yn Creo Medical ar ôl bod yn arweinydd prosiect yn gweithio ar gyflwyno eu cynnyrch 'Microblate Fine' i'r farchnad. Soniodd Shaun am symud ei arbenigedd a ddatblygwyd yn ystod ymchwil ei PhD i amgylchedd masnachol lle mae cryn reoleiddio. Dywedodd Shaun “Rhoddodd fy ngradd PhD gyfle i mi ddysgu sut i ymchwilio a mynd i’r afael â phroblemau mewn ffordd wahanol. Mewn gwirionedd mae’r feddalwedd a ddysgais amdano pan oeddwn yn y Brifysgol yn rhywbeth rwy’n ei ddefnyddio bob dydd. Rydym wedi datblygu dyfais endosgopig sy’n cael ei ddefnyddio gyda thechnoleg uwchsain endosgopig. Mae'n galluogi llawfeddygon i gyflwyno ynni i effeithio ar lu o ganlyniadau clinigol”.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2021