Newyddlenni
Arddangosfa Cyflogadwyedd Tech Gwybodaeth - 31ain Mai 2013
Ar ddydd Gwener, Mai 31ain, bydd Cynghrair Meddalwedd Cymru, ynghyd ag Ysgolion Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn cynnal Arddangosiad Cyflogadwyedd TG yn Neuadd Reichel yn y Brifysgol, ar Ffordd Ffriddoedd, Bangor.
Bydd y neuadd arddangos yn rhoi cyfle i raddedigion o鈥檙 ysgol i gyflwyno鈥檙 gwaith maent wedi bod yn ei baratoi ar gyfer eu projectau blwyddyn olaf, a hefyd i fusnesau TG arddangos a cheisio recriwtio鈥檙 dalent gorau ar gael eleni. Mae鈥檙 digwyddiad sy'n cael ei gynnal rhwng 10.00-5.oo ar agor i bawb, a darperiri lluniaeth ysgafn.
Yn gyfochrog bydd yna sgyrsiau ar Gyfrifiadureg sydd 芒鈥檙 amcan o dynnu sylw at y gwaith sy鈥檔 cael ei gyflawni gan wyddonwyr cyfrifiadureg ym Mangor a all fod o ddiddordeb i ddatblygwyr meddalwedd sy鈥檔 edrych am gyfleoedd i gyd-weithio a syniadau technoleg newydd. Bydd testun y sgyrsiau yn amrywio o dechnolegau Cyffyrddiadol, i Gyfrifiadura Perfformiad Uchel a Phrosesu Iaith Naturiol.
Yn ogystal 芒 gwyddoniaeth cyfrifiadureg arloesol, bydd yna hefyd sgyrsiau ar gyfer pob math o fusnes, gyda鈥檙 amcan o sicrhau bod cwmn茂oedd lleol yn ddiogel a chystadleuol yn ystod yr amseroedd economaidd cythryblus sydd ohoni.
Bydd yr Athro Nigel John, sydd yn arwain yr Uned Ddelweddu Meddygol Uwch ym Mangor ac yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil mewn i Gyfrifiadureg Weledol RIVIC, yn cyflwyno sgwrs ar y defnydd o Dechnolegau Cyffyrddiadol. Dywedodd yr Athro Nigel John: 鈥淩ydw i鈥檔 credu y bydd hwn yn ddigwyddiad gwych, rydym o hyd yn chwilio am gyd-weithwyr felly dwi鈥檔 gobeithio y bydd gweithwyr proffesiynol y maes TG a mentrwyr yn cymryd y cyfle hwn i ymuno gyda ni.鈥
Mae yna dal lefydd arddangos a chyfleoedd siarad ar gael, ac rydym yn annog busnesau i gysylltu gyda鈥 trefnydd y digwyddiad: Catrin Roberts
c.roberts@softwarealliancewales.com 01248 382728 cyn gynted 芒 phosib os oes ganddynt ddiddordeb cymryd rhan.
Dywedodd Paul Sandham, Rheolwr Gyfarwyddwr y darparwr gwasanaethau mapio a symudol arloesol GeoSho, sydd wedi eu lleoli yng Nghaernarfon, 鈥淢ae鈥檙 digwyddiad yma yn newyddion ardderchog, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at allu siarad yn uniongyrchol gyda鈥檙 goreuon o raddedigion TG Bangor, a dysgu mwy am waith yr academyddion yn y maes Cyfrifiadureg.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2013