Achrediad yr Engineering Council
Achredwyd y radd hon gan yr (*) dan drwydded gan reolydd y Deyrnas Unedig, yr Engineering Council. Mae achrediad yn nod sicrwydd fod y radd yn cwrdd â’r safonau a nodwyd gan yr Engineering Council yn UK Standard for Professional Engineering Competence (UK-SPEC).Â
Bydd gradd achrededig yn rhoi rhywfaint neu’r cyfan o’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau creiddiol sydd eu hangen i gofrestru maes o law fel Peiriannydd Corfforedig (IEng) neu Beiriannydd Siartredig (CEng). Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio rhai sydd â graddau achrededig, ac mae’n debygol y bydd gwledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol yn cydnabod graddau achrededig.