Busnes yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig
Mae gan yr Ysgolion draddodiad hir o gydweithrediad llwyddiannus gyda busnesau a diwydiannau trwy yngynghori, partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth a chytundebau ymchwilio a datblygu.
Mae dylunio electronig a gwasanaethau ymgynghori ar gael gan Industrial Development Bangor (IDB), a chan ganolfannau rhagoriaeth WDA/DEIN y Brifysgol, IBMM ac ICON.
Mae'r cysylltiadau rhwng yr Ysgol a diwydiannau yn cael ei hybu gan IT Wales, a Chanolfannau Technium OPTiC a Technium CAST sydd hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Ysgol Cyfrifiadureg.
Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig gysylltiadau ardderchog gyda busnesau a diwydiannau, ac rydym yn gallu cynnig profiad perthnasol i fyfyrwyr, ac ar yr un pryd, cynnig ymchwil arbenigol ac ysgolheictod o'r Ysgol.
Dewiswch un o'r teitlau isod am fanylion o gydweithrediad llwyddiannus gyda busnesau a diwydiannau:-