Module WXC-3289:
Cyfansoddi (project)
Cyfansoddi (project) 2024-25
WXC-3289
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Guto Puw
Overview
Mae’r project cyfansoddi yn gyfle i fyfyrwyr dreulio cyfnod estynedig mewn gweithgaredd yn ymwneud â chyfansoddi, gan weithio tuag at greu gwaith, neu weithiau, ar raddfa a hyd sylweddol. Mae myfyrwyr yn cwblhau cyfansoddiad neu bortffolio o gyfansoddiadau ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnau, lleisiau, adnoddau electroacwstig ac adnoddau stiwdio, dan gyfarwyddyd arolygwr. Bydd y cyfansoddwyr sydd ar y project yn cwrdd yn gyson fel grŵp i ystyried materion eang ac i rannu syniadau a dulliau. Dylai cyfansoddiadau ddangos dealltwriaeth drylwyr o’u genre, meistrolaeth ar y medrau technegol perthnasol, eglurder o ran bwriad creadigol, a pherthnasedd diwylliannol cyfoes o ran eu dull esthetig.
Mae’r project yn gyfle i fyfyrwyr dreulio cyfnod estynedig mewn gweithgaredd yn ymwneud â chyfansoddi, gan weithio tuag at greu gwaith, neu weithiau, ar raddfa a hyd sylweddol. Mae myfyrwyr yn cwblhau cyfansoddiad neu bortffolio o gyfansoddiadau ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnau, lleisiau, adnoddau electroacwstig ac adnoddau stiwdio, dan gyfarwyddyd arolygwr. Bydd y cyfansoddwyr sydd ar y project yn cwrdd yn gyson fel grŵp i ystyried materion eang ac i rannu syniadau a dulliau. Dylai cyfansoddiadau ddangos dealltwriaeth drylwyr o’u genre, meistrolaeth ar y medrau technegol perthnasol, eglurder o ran bwriad creadigol, a pherthnasedd diwylliannol cyfoes o ran eu dull esthetig. Dylai myfyrwyr gyflwyno cyfansoddiadau ar ffurf sgôr wedi’i nodiannu, recordiad neu gyfuniad. Os yw’r gwaith yn cynnwys cerddoriaeth ar gyfer delwedd symudol, dylech hefyd gyflwyno DVD o gerddoriaeth wedi’i chydamseru â’r llun.
Fel rheol, dylai’r darn neu’r portffolio gymryd rhyw 22 munud, trwy gytundeb â’r arolygwr, ac yn ôl y tempo, cymhlethdod y gerddoriaeth a nodweddion yr adnoddau offerynnol/ lleisiol/ electroacwstig a ddefnyddir. Gall portffolios gynnwys cymysgedd o wahanol genres.
Nid yw’r modiwl hwn yn addas i fyfyrwyr sy’n dymuno cyfansoddi mewn arddulliau hanesyddol neu pastiche.
Rhagofynion: o leiaf un o'r modiwlau canlynol: • WXC-2233: Cyfansoddi Blwyddyn 2 • WXK-2233: Composition Year 2 • WXK-2235: Acousmatic Composition
Assessment Strategy
Trydydd Dosbarth: D- i D+ (40%-49%) Yr elfen allweddol yma yw creu syniadau cerddorol. Mae ffactorau a all gyfyngu marc i’r lefel hon yn cynnwys: adeiledd global gor-syml neu or-gymhleth nad yw’n cynnal y deunydd sydd ynddo nac yn cael ei gynnal ganddo; aymresymiad cerddorol i’w weld yn anaml a defnydd cyfyngedig ar ddeunyddiau; syniadau cerddorol yn brin a/neu o werth amheus; anghydbwysedd mewn undod ac amrywiaeth ar draul diddordeb cyson (yn arbennig drwy ailadrodd deunydd yn anfeirniadol); amrywiaeth o ran priodoldeb defnydd ar adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; techneg wedi’i chyfyngu i lefel weddol sylfaenol; rhai ymdrechion sylfaenol, er nad llwyddiannus bob tro, i reoli neu i ffurfio cymalau, cyflymdra, tempo, deinameg, seinlawnder neu ansoddau; cyflwyniad digonol gan mwyaf, er gyda rhai diffygion sylweddol, a deunyddiau y gall fod angen eu diwygio i raddau cyn y gellid eu defnyddio’n ymarferol mewn perfformiad.
Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%) Creu a realeiddio technegol ar syniadau cerddorol i gyflawni gwaith terfynol sydd, yn gyffredinol, yn effeithiol yw’r brif nodwedd sy’n teilyngu marc yn y categori hwn.  Mae ffactorau a all gyfyngu marc i’r lefel hon yn cynnwys: adeiledd global  nad yw’n cynnal y deunydd sydd ynddo nac yn cael ei gynnal ganddo yn llawn; diffygion ysbeidiol yn effeithiolrwydd ymresymiad gerddorol;  rhai agweddau ar syniadau cerddorol heb eu harchwilio neu heb eu datblygu’n ddigonol; dyfeisgarwch i’w weld ond yn gyfyngedig; llwyddiant cymysg yng nghyfosodiad effeithiol a pherthynas syniadau a deunyddiau; peth anghydbwysedd mewn undod ac amrywiaeth (yn arbennig trwy orddefnydd o ddeunydd heb ddatblygiad); defnydd amhriodol achlysurol o adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; techneg gadarn ond nid bob amser yn hyderus a llyfn; ffurfiant a rheolaeth gerddorol ysbeidiol a chyfyngedig o ran cymalau, cyflymdra, tempo, deinameg, seinlawnder neu ansoddau; rhai diffygion cyflwyniadol, gyda pheth cyfyngiadau ar ymarferoldeb y deunyddiau mewn perfformiad.
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%) Creu, realeiddio technegol a threfnu syniadau cerddorol dychmygus i greu gwaith cyffredinol sy’n argyhoeddi’n esthetig yw’r nodwedd wahaniaethol yn hyn o beth. Mae’r cyfansoddiad yn dangos y rhan fwyaf o’r canlynol: adeiledd cyffredinol huawdl ac effeithiol; ymresymiad cerddorol clir, a grëir wrth archwilio a datblygu syniadau a deunyddiau cerddorol; syniadau cerddorol creadigol a huawdl; cydbwysedd da rhwng undod ac amrywiaeth, fel bod y cyfansoddiad yn cynnal diddordeb ac yn gydlynol; defnydd priodol ac effeithiol ar adnoddau offerynnol lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; defnydd cadarn ar ddulliau technegol priodol; sensitifrwydd da wrth bennu brawddegau, arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau, gan ddangos dealltwriaeth o’r effaith gyffredinol a gânt ar y gwaith cerddorol gorffenedig; safon dda o gyflwyno, gan roi sylw i fanylion a chyda rhywfaint o dystiolaeth o ystyriaeth o ymarferoldeb y deunyddiau perfformio.
Dosbarth Cyntaf:  A- i A (70%-83%) Creu gwaith cyflawn cyffredinol sy’n afaelgar, yn ddiddorol ac yn foddhaol o safbwynt esthetig, a hynny trwy ddychymyg cerddorol a meistrolaeth dechnegol barhaus. Mae’r cyfansoddiad yn dangos y rhan fwyaf o’r canlynol: adeiledd cydlynol wedi’i weu’n dynn; ymresymiad cerddorol cydlynol, argyhoeddiadol a pharhaus, wedi’i greu wrth archwilio a datblygu posibiliadau llawn y syniadau a’r deunyddiau cerddorol; syniadau cerddorol wedi’u creu a’u hynganu gyda dawn a dychymyg amlwg, a chyda rhywfaint o wreiddioldeb; cydbwysedd llwyr briodol (ond nid o anghenraid yn gyfartal) rhwng undod ac amrywiaeth, fel y cynhelir diddordeb a chydlyniad trwy gydol y darn, defnydd nodedig, creadigol ac idiomatig ar adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; defnydd hyderus, huawdl a doeth ar ddulliau technegol priodol; tystiolaeth o sensitifrwydd craff tuag at effeithiolrwydd brawddegau ac arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau, a chyfuniad, cyfosodiad a chydgysylltiad syniadau, a rheolaeth sicr drostynt; cyflwyniad trawiadol, gan roi sylw ardderchog i fanylion ac ystyriaeth lawn i ymarferoldeb deunyddiau perfformio (p’un a fyddo hynny ar gyfer perfformiad byw, ynteu’n realeiddiad o gyflwyniad electroacwstig);
Dosbarth Cyntaf:  A+ i A** (84%-100%) Byddai cyfansoddiadau yn y categori hwn yn argyhoeddiadol ac yn gredadwy o fewn rhaglen o weithiau a gyfansoddwyd yn broffesiynol. Ni ddyfernir marciau yn y band hwn ond mewn achosion eithriadol, lle mae’r cyfansoddiad yn cynnig profiad cerddorol llwyr afaelgar a grëir trwy wreiddioldeb creadigol gwirioneddol, ynghyd â realeiddiad technegol cwbl sicr.
Learning Outcomes
- Asesu cynnydd drwy hunan-feirniadaeth gytbwys fel rhan o'r broses greadigol
- Cyfansoddi cerddoriaeth sy'n dangos gwreiddioldeb meddwl a lefel dda o annibyniaeth greadigol
- Cyfansoddi cerddoriaeth sy'n defnyddio technegau cyfansoddi sy'n briodol i'r arddull / genre
- Dangos y gallu i gyfansoddi cerddoriaeth sy'n cynnig profiad gwrando deniadol a gwerth chweil, yn unol â safonau'r diwydiant
- Esbonio a chyfiawnhau penderfyniadau creadigol a wneir fel rhan o'r broses gyfansoddiadol
- Mae cyfansoddiad dylunio yn gweithio gan ddefnyddio offer a deunyddiau priodol mewn modd effeithiol
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Project Cyfansoddi. Cyfansoddiad unigol neu Bortffolio o gyfansoddiadau mewn unrhyw arddull a genre.
Weighting
80%
Due date
07/05/2024
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad Ysgifenedig
Weighting
10%
Due date
23/11/2023
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad Llafar
Weighting
10%
Due date
11/01/2024