Module WXC-2232:
Cerddorfaeth Heddiw
Cerddorfaeth Heddiw 2024-25
WXC-2232
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Guto Puw
Overview
Nod y modiwl hwn yw darparu'r technegau cerddorfaethu sylfaenol sydd eu hangen i fod yn gerddorfaethwr neu gyfansoddwr llwyddiannus heddiw. Bydd yn cynnwys astudiaeth drylwyr o gerddorfaeth gan gyfansoddwyr o'r cyfnod Clasurol hyd heddiw, gan ganolbwyntio yn ei dro ar yr holl adrannau offerynnol a'u defnydd o fewn y gerddorfa. Asesir y modiwl gyda nifer o ymarferion cerddorfaol o amrywiol heriau sy'n mynd i'r afael 芒'r gwahanol faterion technegol a chreadigol.
Wth. Cynnwys: 1. Cyflwyniad i'r modiwl 2. Cyflwyniad i'r offerynnau llinynnol 3. Cyflwyniad i'r chwythbrennau 4. Cyflwyniad i'r Offerynnau Pres I 5. Adnabod llinellau melodig & Cerddorfaethu sgorau piano 6. -- 7. Cyflwyniad i'r offerynnau taro I 8. Vaughan Williams - Fantasia on a Theme by Thomas Tallis 9. Offerynnau chwyth ychwanegol & Offerynnau Pres II 10. Sgorio crescendo & Effeithiau antiffonaidd 11. Cyflwyniad i'r offerynnau taro II 12. Tueddiadau cyfoes & Creu Sgor a Rhannau
Assessment Strategy
-threshold -Mae'r gwaith yn arddangos dealltwriaeth sylfaenol ond cyfyngedig o sgorio ar gyfer cerddorfa, gan wneud defnydd cywir ac addas o farciau bwa i'r llinynnau, aseinio synhwyrol o'r llinynnau, chwythbrennau a'r offerynnau pres, a gwybodaeth ymarferol o drawsgyweirio perthnasol yn y chwyth a phres.
-good -Mae'r gwaith yn arddangos dealltwriaeth fanwl o sgorio ar gyfer y gerddorfa, nid yn unig yn arddangos gwybodaeth o'r defnydd o farciau bwa, ac aseinio addas o'r llinynnau, chwybrennau a'r pres, ond hefyd yn arddangos dychymyg a chreadigrwydd ymarferol yn y defnydd o offerynnau.
-excellent -Mae'r gwaith yn arddangos dealltwriaeth fanwl o sgorio ar gyfer y gerddorfa, gan wneud defnydd lawn o dechnegau cerddorfaethu, ac yn dangos gwreiddioldeb mewn wrth gyfuno y timbre offerynnol.
Learning Outcomes
- Arddangos lefel ddigonol o greadigrwydd, dyfeisgarwch a dychymyg tra'n cerddorfaethu ar gyfer cerddorfa lawn.
- Cymhwyso confensiynau o ysgrifennu cerddorfaol i sgorio darnau i'r allweddellau.
- Wedi datblygu sgiliau ar gyfer adolygu, beirniadu a thrafod technegau cerddorfaethu.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Gwaith Cwrs 1 - cerddorfaethu darn byr ar gyfer ensemble o offerynnau
Weighting
20%
Due date
12/10/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Gwaith Cwrs 2 - cerddorfaethu dyfyniad ar gyfer cerddorfa siambr
Weighting
30%
Due date
16/11/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Prif Aseiniad - cerddorfaethu dyfyniad sylweddol ar gyfer cerddorfa lawn
Weighting
50%
Due date
08/01/2024