Module HTC-2160:
Oes Y Diwygiad : 1770-1835
Oes Y Diwygiad: 1770-1835 2024-25
HTC-2160
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Lowri Ann Rees
Overview
Gall y pynciau byddwn yn astudio yn ystod y modiwl gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol: trosolwg o'r system wleidyddol heb ei diwygio a'r cysyniad o ddiwygio; effaith Rhyfel Annibyniaeth America ar Brydain; y fasnach gaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd a'r mudiad Diddymu Caethwasiaeth; effaith y Chwyldro Ffrengig, a'r rhyfel dilynol â Ffrainc, ar Brydain; trosedd, cosb a diwygio cosb; George III ac Argyfwng Rhaglywiaeth 1789; Iwerddon a Deddf Uno (1800); protestiadau poblogaidd ac ymatebion y llywodraeth; Rhyddfreinio Catholigion (1829); Y Ddeddf Diwygio Mawr (1832); effaith diwygio ar amodau gwaith; diwygio cyfraith y tlodion.
Assessment Strategy
-trothwy -Bydd myfyrwyr trothwy (D- a D) wedi gwneud lleiafswm o ddarllen yn unig, a bydd eu gwaith yn aml yn seiliedig yn rhannol ar nodiadau darlith a/neu werslyfrau sylfaenol. Byddant yn dangos yn eu hasesiadau ysgrifenedig rywfaint o wybodaeth am o leiaf rannau o’r maes perthnasol, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i fframio dadl sy’n ymwneud â dadleuon hanesyddol, ond ni fyddant yn trafod rhai agweddau mawr a hanfodol o pwnc; a/neu ddefnyddio dim ond peth deunydd perthnasol ond yn methu'n rhannol â'i gyfuno'n gyfanwaith cydlynol; a/neu ddefnyddio rhywfaint o dystiolaeth i gefnogi pwyntiau unigol ond yn aml yn methu â gwneud hynny a/neu yn dangos anhawster wrth bwyso a mesur tystiolaeth (a thrwy hynny dibynnu ar dystiolaeth anaddas neu amherthnasol wrth wneud pwynt). Fel arall neu’n ychwanegol, gallai cyflwyniad y gwaith fod yn wael hefyd, gyda gramadeg a/neu atalnodi gwael, gwallau teipio a sillafu diofal, a diffyg cyfeirio effeithiol a chywir. -da -Bydd myfyrwyr da (B- i B+) yn dangos lefel gadarn o gyrhaeddiad a dyfnder gwybodaeth ar draws holl feini prawf C- i C+, a byddant hefyd yn dangos ymgysylltiad adeiladol â gwahanol fathau o ysgrifennu hanesyddol a dehongliad hanesyddol . Bydd syniadau'n cael eu cyfleu'n effeithiol a bydd gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ystod dda o ffynonellau/darllen ac yn dangos dealltwriaeth glir o'r materion ac o'r dehongliadau presennol a fynegir mewn dadl sydd wedi'i strwythuro'n dda, yn berthnasol ac wedi ffocysu. Bydd myfyrwyr ar ben uchaf y band hwn yn trafod ac yn beirniadu’r syniadau y dônt ar eu traws, ac yn syntheseiddio’r dehongliadau amrywiol y maent yn eu canfod i ddod i’w casgliadau ystyriol eu hunain. Bydd gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno'n gywir gyda chyfeiriadau a llyfryddiaeth lle bo'n briodol. -rhagorol -Bydd myfyrwyr rhagorol (A- ac uwch) yn dangos cyflawniad cryf ar draws yr holl feini prawf ynghyd â dyfnder gwybodaeth arbennig a/neu gynildeb dadansoddi. Mewn gwaith ysgrifenedig, byddant yn cefnogi eu dadleuon gyda chyfoeth o fanylion/enghreifftiau perthnasol. Byddant hefyd yn dangos ymwybyddiaeth graff o'r hanesyddiaeth berthnasol ac yn disgrifio pam mae'r casgliadau y daethpwyd iddynt yn bwysig o fewn dadl hanesyddol benodol. Gallant ddangos agwedd arbennig o gynnil at wrthwynebiadau posibl, gan esbonio eu dadl yng ngoleuni gwrthenghreifftiau, neu gynhyrchu synthesis diddorol o safbwyntiau cyferbyniol amrywiol. Yn gyffredinol, bydd safonau'r cynnwys, y ddadl a'r dadansoddi a ddisgwylir yn gyson well na'r gwaith ail uwch uchaf. Bydd safonau cyflwyno hefyd yn uchel. -lefel arall-Bydd myfyrwyr yn y band hwn (C- i C+) yn dangos ystod foddhaol o gyrhaeddiad neu ddyfnder gwybodaeth o’r rhan fwyaf o rannau’r modiwl, a byddant yn gwneud ymdrechion llwyddiannus, os yn anghyson weithiau, i ddatblygu’r sgiliau hynny sy’n briodol i’r astudiaeth o Hanes ar lefel israddedig. Yn achos yr asesiadau ysgrifenedig, bydd yr atebion yn ceisio canolbwyntio ar y cwestiwn, er efallai y byddant yn troi i mewn i naratif, a byddant yn dangos peth tystiolaeth o ddarllen ac ymchwil cadarn. Gallai'r ddadl golli cyfeiriad ac efallai na fydd yn ddigon clir ar waelod y categori hwn. Cyflwynir gwaith ysgrifenedig yn weddol dda gyda dim ond gwallau cyfyngedig mewn gramadeg, atalnodi a chyfeirnodi, ac nid i'r graddau eu bod yn cuddio ystyr.
Learning Outcomes
- Barnu rhwng dehongliadau cystadleuol yr hanesyddiaeth (gan gynnwys safbwyntiau cyfredol mewn ysgrifennu hanesyddol ac academaidd arall)
- Cyflwyno dadl hanesyddol glir, ar sail tystiolaeth, ac argyhoeddiadol o dan amodau arholiad
- Dadansoddi darnau unigol o dystiolaeth hanesyddol yn agos iawn – yn enwedig eu gosod yn eu cyd-destun, gan farnu eu rhinweddau fel tystiolaeth, ac egluro eu harwyddocâd
- Dangos gwybodaeth eang am Brydain a diwygiadau yn ystod y cyfnod 1770-1835.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad furffiol
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd
Weighting
50%