Module CXC-1018:
Gweithdy Creadigol
Gweithdy Creadigol 2024-25
CXC-1018
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gerwyn Wiliams
Overview
Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw鈥檔 gyfyngedig i鈥檙 rhai sy鈥檔 dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. Defnyddir tri dull dysgu, sef seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Mewn seminarau, trafodir enghreifftiau llwyddiannus o wahanol genres ffuglennol a barddol, dulliau a chonfensiynau llenyddol. Tynnir sylw at amryw fathau o ysgrifennu creadigol a鈥檜 cynnig yn ganllawiau i鈥檙 rhai sy鈥檔 dilyn y modiwl, modelau y gallen nhw eu hefelychu wrth fynd ati i gyfansoddi eu hunain. Mewn gweithdai, gosodir ymarferion penodol i鈥檙 myfyrwyr weithio arnynt er mwyn hybu creadigrwydd a datblygu syniadau newydd. Mewn cyfres o diwtorialau a gynhelir yn ystod y semester, rhoddir adborth i鈥檙 ymarferion dosbarth, trafodir syniadau鈥檙 myfyriwr unigol ar gyfer ei ffolio, a chynigir sylwadau ar unrhyw waith creadigol sydd ar y gweill.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gallu i adnabod gwahanol genres llenyddol a deall eu priod nodweddionDangos gallu i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau llenyddolDangos gallu i ysgrifennu'n greadigolDangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-good -B- i B+Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gallu da i adnabod gwahanol genres llenyddol a deall eu priod nodweddionDangos gallu da i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau llenyddolDangos gallu da i ysgrifennu'n greadigolDangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-excellent -A- i A*Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gallu sicr i adnabod gwahanol genres llenyddol a deall eu priod nodweddionDangos gallu sicr i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau llenyddolDangos gallu sicr i ysgrifennu'n greadigolDangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Learning Outcomes
- Cynllunio casgliad o waith creadigol gwreiddiol.
- Dangos adnabyddiaeth o briod nodweddion amryw genres llenyddol, e.e. stori fer, ymson, pennill telyn, haicw.
- Gwybod sut i ddatblygu deunydd er mwyn gwireddu ei botensial llenyddol.
- Harneisio'r nodwedion hynny at eu hysgrifennu creadigol eu hunain.
- Ymateb i rym mynegiannol iaith lenyddol.
Assessment type
Summative
Weighting
50%
Assessment type
Summative
Weighting
50%