Module CXC-1001:
Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer
Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer 2024-25
CXC-1001
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Jason Davies
Overview
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Rhoddir y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol. Gwneir hyn drwy gyfres o astudiaethau manwl ar gerddi a darnau rhyddiaith unigol. Gweithiau o’r ugeinfed ganrif yw’r mwyafrif o’r darnau a drafodir, ond byddir hefyd yn ymdrin yn feirniadol ag ambell awdl a chywydd o’r Oesoedd Canol, a cherddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrir swyddogaeth beirniadaeth lenyddol mewn gwahanol gyd-destunau – cystadlaethau eisteddfodol a chyfieithu llenyddol, er enghraifft. Er goleuo’r pwnc ymhellach, ymdrinnir â nifer o’r cerddi a’r darnau rhyddiaith Cymraeg ochr yn ochr â gweithiau Saesneg ac enghreifftiau o lenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad).
Learning Outcomes
- Asesu'r traddodiad beirniadol Cymraeg yng nghyd-destun ehangach damcaniaethu beirniadol y dwthwn hwn.
- Cyfoethogi eu dealltwriaeth o'r testunau Cymraeg drwy gymharu'r gweithiau hyn yn ddadlennol ag enghreifftiau perthnasol o lenyddiaeth eraill.
- Dadansoddi testunau Cymraeg o wahanol gyfnodau gan ddangos gwybodaeth am eu cefndir hanesyddol a'u nodweddion mydryddol, ieithyddol a delweddol.
- Trafod defnyddioldeb gwahanol syniadau beirniadol fel ffyrdd o ddehongli testunau Cymraeg penodol.
Assessment type
Summative
Weighting
75%
Assessment type
Summative
Weighting
25%