Rheolau Clwb Busnes Prifysgol Bangor
Rheolau Clwb Busnes Prifysgol Bangor
- Mae aelodaeth yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Ganolfan Rheolaeth.
- Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn cadw'r hawl i ddiddymu aelodaeth ar unrhyw adeg.
- Caiff aelodaeth ei roi i unigolyn, nid i sefydliad neu gwmni.
- Mae'r buddiannau'n berthnasol i'r aelod unigol a enwir a, lle bo'n addas, eu gwestai, a gall y buddiannau hynny amrywio o bryd i'w gilydd.
- Dylai aelodau gadw at bolisïau Prifysgol Bangor, sydd ar gael ar wefan y Brifysgol, wrth ddefnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael i aelodau. (link)
- Mae darpariaeth y gwasanaeth diwifr am ddim yn amodol ar bolisi defnydd teg a dylid ei ddefnyddio yn unol â chanllawiau Prifysgol Bangor, sydd ar gael ar wefan y Brifysgol. (link)
- Mae'n ofynnol i aelodau ddangos eu cerdyn aelodaeth i gael defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael i aelodau.
- Dim ond aelodau a enwir sy'n gymwys am brisiau ffafriol.Ni ellir defnyddio'r disgownt bwcio ffafriol o 20% ar y cyd ag unrhyw gynnig arall.
- Y Ganolfan Rheolaeth sy'n cymeradwyo cynnwys erthyglau ar gyfer y fforwm busnes.
- Ni cheir defnyddio'r fforwm busnes fel cyfrwng i werthu neu farchnata.
- Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn cadw'r hawl i roi gwybod i aelodau am ddigwyddiadau Clwb Busnes Prifysgol Bangor sydd i ddod.