Ymchwil ecolegol hir dymor
Mae gan yr Ysgol bortffolio helaeth o safleoedd ecolegol hir dymor yng nghyffiniau Bangor ac o amgylch y byd. ÌýBwriad y rhain yw monitro deinameg hir dymor ecosystemau (naturiol ac wedi’u haddasu gan newid hinsawdd, llygredd a ffactorau eraill), yn ogystal ag effeithiau triniaethau arbrofol.
Maent yn adnodd gwerthfawr ar gyfer ymchwil amgylcheddol yn y dyfodol. Ìý
I grynhoi:
-
Coedwigoedd naturiol Ìý
- 27 o leiniau sampl coedwig a 26 o leiniau bylchau coed wedi syrthio yng Nghoed Dolgarrog (Gwarchodfa Natur Genedlaethol fwyaf a mwyaf amrywiol Cymru); fe'u sefydlwyd yn 1998 a 2000, ac fe'u cynhelir mewn cydweithrediad â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.Ìý
- Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Aber, sy’n rhan o Ganolfan Rheoli Bryndir ac Uwchdir SENRGY, yn gynefin pwysig i rywogaethau cen, pryfetach ac adar. ÌýMae SENRGY yn cydweithio â CCW mewn ystod o raglenni monitro ecolegol hir dymor.
- Tri o leiniau cymharu a thri llain bylchau coed parhaol mewn coedwig law drofannol fynyddig yn Jamaica, lle ceir corwyntoedd. Sefydlwyd y rhain yn 1986.
- Dau arbrawf hir dymor mewn rhannau o goedwigoedd glaw trofannol mynyddig yn Jamaica y mae’r rhywogaeth o goed Awstralaidd,Ìý Pittosporum undulatum, wedi ymwthio’n drwm ac yn ysgafn iddynt.ÌýÌý Mewn rhwydwaith o leiniau a atgynhyrchwyd, rydym yn cymharu cyfansoddiad a deinameg coedwigoedd y mae’r rhywogaethau ymwthiol wedi cael eu clirio ohonynt, caniatáu iddynt ymwthio iddynt a’u rheoli â mesurau tymor byr. Sefydlwyd 1990 - 1995.Ìý
- Chwech o leiniau sampl mewn coedwig law drofannol iseldir yn ardalÌý Maquenque o ogledd Costa Rica. Sefydlwyd yn 2005.
- Safleoedd arbrofol tymor hir mewn coed taiga is a chanol yn Rwsia. ÌýNi thorrwyd coed erioed ar y safleoedd hyn ac maent yn safleoedd llinell sylfaen unigryw. ÌýDefnyddir y safleoedd i gymharu effeithiau llygredd a thorri coed ar ecosystemau coedwigoedd taiga.
-
Coedwigoedd planhigfeydd Ìý
- Coedwigoedd planhigfeydd coniffer sy’n cael eu troi’n Goedwigaeth Gorchudd Parhaus yng ngogledd a chanolbarth Cymru yng Nghoedwig Gwydir, ÌýCoed y Brenin, Coedwig Clocaenog, Trallwng.
- Bangor-FACE, arbrawf i brofi effeithiau lefelau uwch o CO2 uwchben ac o dan y ddaear ar sefydlu lleiniau o wahanol gymysgeddau o rywogaethau coed.Ìý ÌýMwy o wybodaeth
-
Coedamaeth coedwigaeth a phori Ìý
- Arbrawf aml-haen - safle 30 ha yng Ngholombia lle tyfir gwahanol gyfuniadau o lwyni, ffrwythau a phorthiant yn ogystal â lle i wartheg bori.Ìý
-
Adfer tir ôl-ddiwydiannol Ìý
- Arbrofion hir dymor i sefydlu chwech o rywogaethau coed a llwyni gydag addasiadau is-haen i gynyddu faint o ddŵr a maetholion sydd i’w cael ar domenni gwastraff chwareli llechi. Ìý
Data maes llinell sylfaen
Yn ogystal, mae gan yr Ysgol setiau data o brojectau gwaith maes blaenorol a wnaed mewn ystod eang o gynefinoedd o gwmpas y byd. ÌýEr nad yw’r lleiniau maes wedi cael eu cynnal a’u cadw wedi hynny i ddibenion monitro manwl gywir, mae potensial da ynddynt i ail gofnodi a chymharu â data llinell sylfaen sydd ar gael er mwyn asesu newid amgylcheddol. ÌýMae enghreifftiau’n cynnwys:
- Lleiniau arbrofol coedwigaeth eilaidd, gwrychoedd ar lethrau a rhywogaethau coed yn Jamaica.
- Effeithiau tarfu ar goedwigoedd calchfaen sych yn Jamaica
- Cyfansoddiad coedwigoedd calchfaen ar hyd graddiant glawiad yn Jamaica.
- Coedwigoedd hynafol wedi’u diogelu yn nhiroedd 38 o eglwysi a mynachlogydd Eglwys Uniongred Ethiopia; adnodd gwerthfawr ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth sydd wedi’i ddosbarthu ar draws ucheldiroedd Ethiopia. Ìý
- Olyniaeth gynradd ar lifoedd lafa, braenar coedwigoedd eilaidd a safleoedd cynaeafu coed yn Cameroon
- Cynhyrchiant rhywogaethau coed drudfawr mewn braenarau coedwigoedd eilaidd yn Cameroon
- Coedwigoedd Alpaidd llinell goed yn yr Eidal
- Adfywio coedwigoedd mewn hen feysydd yng Ngwlad Thai
- Adfywio coetir miombo yn Tanzania. ÌýMwy o wybodaeth ar gael ar y wefan I-TOO.
- Effaith cynaeafu cynhyrchion coedwig heblaw coed ac amaethyddiaeth torri a llosgi ar goedwig law drofannol yn Madagascar
- Deinameg poblogaeth rhywogaethau coed mewn coedwig isdrofannol yn yr Ariannin.
- Lleiniau planhigion isel mewn coetir derw mewn arbrawf yn ymwneud â gwahanol ddulliau pori yn Nant Gwynant, Eryri.
- Adfywiad naturiol coed mewn safleoedd uwchdir wedi’u gorchuddio â rhedyn yn nyffryn Aber ac ar Fynydd Conwy
- Ystod o ddata a phrofion monitro ar goed, llwyni a llystyfiant gweundir a sefydlwyd yn ystod adfer tomennydd gwastraff llechi gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyferbyniol. Ìý
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am unrhyw rai o’r safleoedd hyn, cysylltwch â Michelle Jones yn y lle cyntaf.