Dyddiadur Wythnos Groeso
Mae Tomos Jones, sy'n astudio Daearyddiaeth BSc yn Arweinydd Cyfoed. Dyma ei ddyddiadur Wythnos Groeso i roi blas i chi o sut beth ydi'r wythnos gyntaf ym Mangor.
Dydd Sadwrn, Medi 22ain
Diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd newydd, ac yn ddechrau newydd i gannoedd o fyfyrwyr. Fel arweinydd cyfoed roeddem yn gyfrifol am fynd fyny i Safle Ffriddoedd am y dydd, i ganol y bwrlwm. Roedd pawb efo gormodedd o fagiau. Yn ystod y prynhawn mi wnes gwrdd â thri o fy myfyrwyr, sicrhau eu bod yn hapus a chyfforddus. Pawb methu disgwyl i ddadbacio a llenwi eu hystafelloedd newydd. Heno roedd holl fyfyrwyr ADNODD yn cael eu croesawu i Thoday am fwyd a diod yn rhad ac am ddim! Roedd pawb yn nerfus, pawb yn yr un cwch, ond dyna’r ffordd orau i ddechrau sgwrsio gyda phobl ddiarth a gwneud ffrindiau.
Dydd Sul, Medi 23ain
Heddiw roedd gweddill y myfyrwyr yn symud i’r neuaddau. Roedd naws hyd yn oed fwy cyffroes ar Safle Ffriddoedd. Mi welais y gweddill o’m myfyrwyr, un yn awyddus iawn i gael gwybod am yr holl ddigwyddiadau oedd wedi eu trefnu iddo yn ystod Wythnos y Glas. Roeddem yn croesawu pawb i Thoday eto heno, fel y gall y rhai a gyrhaeddodd heddiw gyfarfod a phawb. Y rhyfeddod oedd, ein bod ni fel Arweinwyr Cyfoed yn ddiangen! Roedd y myfyrwyr newydd i gyd yn cael ymlaen mor dda, doedd ddim angen ni yno i fod yn gysur i neb.
Dydd Llun, Medi 24ain
Am 9:30yb roedd phob myfyriwr newydd yn cael eu croesawu gan yr Is-ganghellor yn Neuadd PJ. Mi roedd yr arweinwyr cyfoed i gyd tu allan yn disgwyl amdanynt mewn glaw trwm. Y cynllun oedd mynd a hwy o amgylch adeiladau’r Brifysgol, ac yn fwy cyffredinol y ddinas, iddynt gael syniad o ble fyddai eu darlithoedd yn cael eu cynnal ayyb. Ond oherwydd y tywydd annioddefol, chael panad mewn cynhesrwydd caffi y gwnaethom! Yn y prynhawn wedyn roedd ganddynt gyfres o ddarlithoedd byr yn Thoday. Heno fe ddangoswyd ffilm ‘The Human Planet’, cyfle braf am noson dawel ar ôl prysurdeb y penwythnos!
Dydd Mawrth, Medi 25ain
Y myfyrwyr yn dechrau eu bora wrth gyfarfod eu tiwtor personol. Roeddem ni'r arweinwyr cyfoed o gwmpas i helpu gydag unrhyw ymholiadau, ac yn yr ystafelloedd cyfrifiaduron i ddangos nodweddion pwysicaf y fewnrwyd. Yn y prynhawn cafwyd hwyl yn chwarae gemau megis ‘Twister’, cyfle gwych i bawb gymysgu a chael hwyl. Gyda’r nos roeddem ni wedi trefnu cwis i bawb, gydag ychydig o fwyd a diod ar gael. Eto yn gyfle i bawb gael sgwrs, a dod i adnabod aelodau eu timau. Cywilydd bod y myfyrwyr newydd yn gwneud yn well na llawer ohonom ni yn yr ail a thrydedd flwyddyn. I’r rheini oedd eisiau mynd i gwpl o dafarndai, fe roedd y cynnig yno!
Dydd Mercher, 26ain
Roedd phawb angen mynd i gofrestru yn y bore, cyn mynd i Faes Glas i’r ffair Serendipity. Roedd y neuadd yn orlawn, gyda balŵns a baneri yn phob man! Pawb yn awyddus i ymaelodi â chymaint o gymdeithasau a chlybiau ac sy’n bosib. Cyfle'r Gymdeithas Ddaearyddiaeth oedd heno i drefnu adloniant, y themâu oedd UV. Roedd pawb yn eu dillad llachar a phaent dros eu hwynebau, gan greu awyrgylch hwyl a sbri. Ar ôl ychydig o dafarndai, diweddu fyny yn yr Academi a wnaethom, sef clwb yr Undeb Myfyrwyr, i rheini oedd eisiau ymuno. Phawb yn cael amser anhygoel.
Dydd Iau, Medi 27ain
Dechrau’r dydd gyda sesiwn wybodaeth fer am y llyfrgell, cyn i ni'r Arweinwyr Cyfoed dywys grwpiau bach o fyfyrwyr o gwmpas llyfrgell Deiniol, a rhannu'r wybodaeth bwysig yn y gobaith y byddent yn defnyddio’r llyfrgell yn rheolaidd iawn! Eto heno roedd cyfle i fynd i rai o nifer o dafarndai Bangor, a chlwb os oedd pawb eisiau. Yn bersonol, roedd diffyg egni i glybio felly arhosais efo’r myfyrwyr newydd yn y dafarn. Cyfle i mi gael dod i nabod hwy hefyd.
Dydd Gwener, Medi 28ain
Yn anffodus, dyma ddiwrnod olaf swyddogol yr Wythnos Groeso! Roedd gan fyfyrwyr daith maes yn ystod y dydd, yn dibynnu ar eu cwrs gradd. Roedd y rhai sy’n gwneud Daearyddiaeth BSc/BA yn cael trip i’r Mynydd Gwefru ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Erbyn nawr roedd pawb yn nabod ei gilydd yn eithaf da, ac felly os yn bosib, roeddent i weld yn cael hyd yn oed mwy o hwyl nac yn gynharach yn ystod yr wythnos!
I ddarfod yr wythnos mewn steil, roedd cymdeithasau ADNODD wedi trefnu Gala Coctel a Chanapés ar gyfer heno. Roedd pawb yn eu siwtiau a’u ffrogiau smart. Roedd y Gymdeithas Ffotograffiaeth yno i gymryd lluniau proffesiynol, fel y bod gan bawb rhywbeth i gofio wythnos anhygoel mewn blynyddoedd i ddod!