Gwyddonwyr o Fangor yn teithio i Periw i ymchwilio i fywyd yn yr awyr denau
Mae mynyddoedd yn mynd â'n hanadl i ffwrdd yn llythrennol, nid yn unig oherwydd y tirweddau dramatig a diwylliannau nodedig, ond oherwydd fod pob anadliad a gymerwn yn uchel i fyny yn cynnwys llai o ocsigen (a elwir yn hypocsia). Mae hypocsia'n rhoi straen sylweddol ar yr ysgyfaint, y gwaed, y galon a'r pibelli gwaed wrth iddynt weithio gyda'i gilydd i ddiwallu angen y corff am ocsigen. Mae gan ymchwilwyr o'r Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer () ym Mhrifysgol Bangor ddiddordeb arbennig mewn deall sut mae pobl yn ymaddasu i fywyd mewn awyr denau.
Dros y blynyddoedd mae staff a myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn teithiau ymchwil i fannau uchel yn yr Alpau yn Ewrop, Nepal ac ucheldiroedd Ethiopia, yn ogystal â chynnal treialon yn nes adref, mewn siambr hypocsig arbennig ym Mangor.
Yr haf hwn bydd Lydia Simpson, myfyriwr PhD ail flwyddyn, yn teithio i Cerro de Pasco, dinas yn yr Andes ym Mheriw. Mae lleoliad y ddinas hon bedair gwaith yn uwch na'r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru. Bydd Lydia yno fel rhan o daith ymchwil ryngwladol Global REACH (Research into Altitude Chronic Health). Trefnwyd y daith gan Brifysgol British Columbia (yng Nghanada) a chyda mwy na 40 o ymchwilwyr o Gymru, Periw, Awstria, Canada, yr Unol Daleithiau a Seland Newydd, bydd Lydia'n ymchwilio sut mae pobl sy'n cael eu geni mewn mannau uchel yn medru ymaddasu'n naturiol i ryw raddau i ymdopi â straen hypocsia.
"Yn bwysig, bydd yr ymchwil yma hefyd yn rhoi sylw i'r ffaith pam fod rhai brodorion sy'n byw mewn mannau uchel yn dod i fethu â dioddef bywyd mewn awyr denau," eglurodd Dr Jonathan Moore, darlithydd ym Mangor, a goruchwyliwr Lydia, sydd hefyd yn teithio i'r Andes.
Ym Mheriw, mae tua traean y boblogaeth yn byw mewn mannau uchel, ac mae tua 15 i 20% o oedolion gwrywaidd yn dod i fethu ag ymdopi â'r uchder. Mae hyn yn arwain yn raddol at golli'r gallu i ymaddasu a gwendid corfforol, a gelwir hyn yn salwch mynydd cronig neu CMS (chronic mountain sickness)"
Prif nodwedd CMS yw nifer eithriadol uchel o gelloedd coch yn y gwaed, sy'n gwneud y gwaed yn drwchus iawn. Mae arwyddion a symptomau eraill CMS yn cynnwys cur pen, penysgafnder, cysgu'n wael, blinder difrifol a'r croen yn troi'n las. Mae'n ffaith wybyddus hefyd y cysylltir CMS yn aml â phwysau uwch nag arfer yn y pibellau gwaed sy'n cyflenwi'r ysgyfaint, sy'n gorfodi'r galon i weithio'n galetach i bwmpio gwaed o amgylch y corff. Mae hyn yn achosi diffyg anadl, dychlamiadau'r galon, a methu â gwneud unrhyw ymarfer. Mewn rhai achosion gall hyn ddatblygu'n niwed parhaol i'r galon ac arwain at farw cynnar. I lawer o ddioddefwyr, yr unig driniaeth yw symud i fannau is i fyw. Fodd bynnag, mae hyn yn arwain at broblemau'n ymwneud ag ynysu cymdeithasol ac economaidd, a all gael effaith sylweddol ar iechyd a lles seicolegol. Gall gwell gwybodaeth a dealltwriaeth o'r mecanweithiau pathoffisiolegol sy'n sail i CMS roi opsiynau triniaeth y mae mawr angen amdanynt i'r boblogaeth hon.
"Byddwn yn cofnodi pwysau gwaed yn y galon a'r ysgyfaint, ac effaith gweithgaredd y system nerfol ar bibelli gwaed, gyda'r nod o geisio deall p'un a yw cynnydd mawr mewn straen yn y corff ('ymladd neu ddianc') yn chwarae rhan mewn salwch mynydd cronig a gorbwysedd ysgyfeiniol ym mhobl yr Andes," meddai Lydia.
"Os gwelwn mai dyna'r achos, yna gall defnyddio cyffuriau i atal rhai o'r ymatebion straen hyn, a gostwng pwysau gwaed yn yr ysgyfaint, helpu i leihau canlyniadau difrifol afiechydon ardiofasgwlaidd sy'n gysylltiedig â gorbwysedd ysgyfeiniol CMS ymysg pobl yr Andes ym Mheriw."
"Ystyrir cymuned ethnig yr Himalayas yn 'frenhinoedd y mynyddoedd' ac maent yn adnabyddus am eu gallu i ymdopi â lefelau isel o ocsigen", eglurodd Lydia. "Mae'n bwysig cymharu'r poblogaethau arbennig hyn sy'n byw mewn mannau uchel, o ran ystyriaethau geneteg a daearyddol, er mwyn gweld beth yw'r addasiadau sy'n galluogi unigolion i ffynnu orau mewn awyr denau."
Cyllidir y daith hon yn rhannol gan Grant Symudedd Santander, grant o'r Gilchrist Educational Trust a'r Physiological Society. Bydd yn ychwanegu at ymchwil flaenorol a wnaed yn Nepal (Hydref 2016), lle bu'r tîm yn astudio pobl Sherpa sy'n byw yn nyffryn Kumbu yn Nepal (5050m uwchlaw lefel y môr).
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2018