Digwyddiad Ysgol Busnes Bangor: 'Adeiladu Pontydd mewn Entrepreneuriaeth'
Cynhaliodd Ysgol Busnes Bangor ddigwyddiad difyr yr wythnos hon i ddod 芒 phobl at ei gilydd, a coedd yn cynnwys entrepreneuriaid y dyfodol sy鈥檔 fyfyrwyr ar hyn o bryd, busnesau newydd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant a oedd yn ceisio ysbrydoliaeth a thrafodaethau arloesol.
Roedd y digwyddiad, a gefnogwyd gan y Gronfa Fenter, nid yn unig yn llwyfan i rwydweithio, ond hefyd yn hwyluso cysylltiadau ystyrlon rhwng myfyrwyr, arbenigwyr diwydiant ac arweinwyr busnes sefydledig. Darparodd sesiynau siaradwyr bont rhwng theori a rhoi鈥檙 theori hwnnw ar waith yn y byd go iawn, gan gynnig cipolwg ar heriau a buddugoliaethau entrepreneuriaeth.
Roedd uchafbwyntiau鈥檙 digwyddiad yn cynnwys pedwar siaradwr nodedig, pob un yn dod 芒 phersbectif unigryw a mewnwelediadau amhrisiadwy i fyd entrepreneuriaeth:
Archwiliodd Stephen Davies, Prif Swyddog Gweithredol The Welsh Whisky Company Cyfyngedig, a鈥檙 grym y tu 么l i Ddistyllfa Penderyn, r么l ganolog creadigrwydd ac arloesedd wrth lunio llwyddiant rhyfeddol Penderyn.
Bu i Rhian Parry, Rheolwr-gyfarwyddwr Workplace-Worksafe, s么n am ei thaith entrepreneuraidd, am y gwersi amhrisiadwy a ddysgodd, ac am strategaethau i fynd i鈥檙 afael 芒 rhwystrau, ynghyd 芒 chyngor pragmatig ar sut i sefydlu menter gynaliadwy a llewyrchus.
Fe wnaeth Jeremy Smith, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Neural River a Neural Voice ac alumni Ysgol Busnes Bangor, ganolbwyntio ar bwysigrwydd rhwydweithio a鈥檌 effaith ar ei daith entrepreneuraidd ei hun o raddio i dywys ei fusnesau ei hun tuag at ddyfodol o ddeallusrwydd artiffisial ac arloesi.
Bu i鈥檙 siaradwr olaf, Frankie Hobro, Perchennog Sw M么r M么n, bwysleisio sut mae ei hymrwymiad i gynaliadwyedd wedi ei sefydlu fel arloeswr, nid yn unig ym maes newid amgylcheddol ac eiriolaeth cadwraeth, ond hefyd ym myd busnes.
Dywedodd Siwan Mitchelmore, Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd Ysgol Busnes Bangor: 鈥淢ae entrepreneuriaeth yn fwy na dim ond dechrau busnes; meddylfryd ydyw, ffordd o feddwl sy'n cofleidio ansicrwydd, risg, a cheisio rhagoriaeth. Mae'n ymwneud 芒 throi syniadau yn realiti, gwthio ffiniau, a chreu atebion i fynd i'r afael ag anghenion ein byd sy'n newid yn barhaus. Mae'r meddylfryd entrepreneuraidd yn nodwedd werthfawr, sy'n cyfoethogi cyflogadwyedd myfyrwyr. Roedd y digwyddiad yn arddangos pedair taith entrepreneuraidd unigryw ac ysbrydoledig. Gadawodd y myfyrwyr 芒 mwy o ysbryd entrepreneuraidd a bu iddynt elwa o鈥檙 cyfle i rwydweithio 芒 chymuned o unigolion o鈥檙 un anian gyda鈥檙 awydd i wneud gwahaniaeth.鈥
Mae 'Adeiladu Pontydd mewn Entrepreneuriaeth' yn dyst i r么l ddylanwadol meithrin ysbryd entrepreneuraidd mewn lleoliadau academaidd, gan siapio arweinwyr y dyfodol ym myd busnes. Mae croeso i chi gysylltu 芒 ni os hoffech gymryd rhan neu ymwneud mewn unrhyw ffordd mewn digwyddiad yn y dyfodol.