Rydym i gyd yn ymwybodol o’r pryder ymysg y gymuned sy’n caru rygbi ar hyn o bryd am anafiadau cyswllt a chyfergyd yn benodol, ond fe all anafiadau digyswllt hefyd gael effaith fawr ar lwyddiant chwaraewyr a thimau.
Ond beth yw’r ffordd orau i baratoi athletwyr am anghenion y gystadleuaeth y maent yn ei hwynebu? Cyn bob tymor, mae chwaraewyr fel arfer yn dilyn cyfnod hyfforddi sydd fel rheol yn cynnwys tuag wyth wythnos neu fwy o hyfforddiant dwys. Ehangu perfformiad yw prif nod y cyfnod yma, ond nod pwysig arall yw lleihau’r risg o anafiadau yn ystod y tymor.
Fodd bynnag, ychydig iawn a wyddom am effaith hyfforddi yn ystod y cyfnod cyn y tymor cystadleuol ar anafiadau dilynol.
Gan mai anafiadau digyswllt wrth redeg yw ail achos mwyaf cyffredin dros anaf mewn Rygbi Undeb, bu gwyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn archwilio sut y mae cyfanswm y llwyth hyfforddi cyn y tymor cystadleuol yn dylanwadu ar risg yn ystod camau gwahanol y tymor cystadleuol.
Fel yr esboniodd Seren Evans, myfyrwraig PhD a wnaeth ,
“Mae ein canfyddiadau yn awgrymu y dylai timau a hyfforddwyr geisio cyflawni mwy o lwythi hyfforddi yn y cyfnod cyn y tymor cystadleuol, boed drwy gynyddu amlder neu hyd sesiynau hyfforddi neu gynyddu’r dwysedd er mwyn paratoi athletwyr yn well i wynebu gofynion chwarae gemau.”
“Mae hyn oherwydd bod mwy o risg i athletwyr sydd wedi profi llwythi hyfforddi cyffredinol isel yn y cyfnod cyn y tymor cystadlu brofi anaf di-gyffwrdd tuag at ddiwedd y tymor, o’u cymharu â’r rhai a fu’n dilyn llwythi hyfforddi cymedrol cyn y tymor cystadleuol.
“Fe wnaethom ni ganfod hefyd, fod pobl efo hanes o anaf, yn ogystal â llwyth hyfforddi cyn-dymhorol isel, yn fwy tebygol fyth o brofi anaf di-gyffwrdd.”
Dywedodd Dr Julian Owen, darlithydd mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer, a phrif ymchwilydd yr astudiaeth,
“Rydym yn awgrymu bod hyfforddwyr yn parhau â’r arfer o fonitro hyfforddiant chwaraewyr yn ystod y cyfnod cyn-dymor a chyfrifo cyfanswm y llwyth hyfforddiant yn y cyfnod cyn-dymor. Gall hyn gynorthwyo hyfforddwyr a thimau meddygol yn y gamp i bennu a yw athletwr neu athletwraig wedi paratoi’n ddigonol ar gyfer anghenion cystadleuol y tymor.
“Mae monitro hyfforddiant chwaraewyr yn agos yn bwysig gan fod y data yn awgrymu bod trothwy i’r hyfforddi cyn-dymor, ac os na chyrhaeddir hwn, yna fe all gynyddu’r risg o anaf yn ystod y tymor cystadlu. Mae’r risg yn cael ei gynyddu ymhellach mewn unigolion sydd â hanes o anafiadau a hefyd os yw hyfforddwyr yn ceisio cynyddu’r hyfforddiant ar ddechrau’r cyfnod cystadlu i wneud yn iawn am ddiffyg hyfforddiant yn y cyn-dymor.”
“Mae mwy nag un ffactor yn achosi anafiadau ac mae angen ymdriniaeth gyfannol i atal y risg anafiadau hyn. Byddai sgrinio am hanes anafiadau blaenorol hefyd yn gymorth i roi strategaethau cyn sefydlu penodol mewn lle er mwyn lleihau’r risg o anafiadau pellach. Bydd hyn hefyd yn lleihau’n sylweddol gostau meddygol anafiadau i’r unigolyn ac i’r tîm.”