Mae mynyddwyr a dringwyr traddodiadol angen dychwelyd i’r bryniau’n rheolaidd, nid er mwyn y wefr ond i deimlo bod ganddynt reolaeth dros eu hemosiynau.
Pan ofynnwyd i Mallory pam fod arno eisiau dringo Everest, cafwyd clasur o ateb ganddo, sef, ‘oherwydd ei fod yno’, ond mae’r ateb hwnnw’n cuddio’r manteision seicolegol y mae rhai dringwyr risg uchel, megis mynyddwyr a dringwyr traddodiadol yn eu cael o wneud eu campau llawn risg.
Rhwystrodd y pandemig ni rhag ymhél â’n hoff gampau awyr agored. Ar yr un pryd, rhoddodd hynny gyfle i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor astudio pa effaith a gafodd methu ag ymhél â mynydda alpaidd neu ddringo traddodiadol ar ffyddloniaid y campau hynny.
Dangosodd y canfyddiadau y gwelwyd colli llawer mwy na dim ond mwynhad o'r awyr agored.
Er nad ydynt efallai’n ymwybodol pam eu bod yn troi at y mynyddoedd a’r creigiau, i rai unigolion, mae cymryd rhan mewn chwaraeon risg uchel yn eu helpu i reoli eu hemosiynau.
Rhan o apêl dringo a mynydda yw’r cyfle i oresgyn heriau meddyliol ac emosiynol yn ogystal â heriau corfforol. Cyflawni’r heriau hynny sy’n gwneud i ddringwyr a mynyddwyr yn arbennig deimlo’r angen i ddychwelyd i’r bryniau i wynebu rhagor o heriau o’r fath.
Dangosodd ymchwil gan y seicolegwyr chwaraeon Dr Marley Willegers a'r Athro Tim Woodman yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît y Brifysgol fod gwerth y profiadau hyn i iechyd meddwl yn wych, ond nad yw’r buddion hynny’n parhau’n hir.
Eglura Marley,
“Yn ein cymdeithas, mae cymryd risg fel arfer yn cael ei ystyried yn rhywbeth negyddol ac yn rhywbeth y dylid ei wthio o’r neilltu. Ond nid ‘chwilio am gyffro’ mae pobl sy'n cymryd rhan mewn rhai chwaraeon risg uchel, na dyheu am y rhuthr hwnnw o adrenalin. Mae rhywbeth arall yn digwydd.
“Mae pobl sy’n teimlo nad oes ganddyn nhw lawer o reolaeth dros eu bywydau bob dydd, sy’n teimlo fel tegan yn nwylo pobl eraill, yn gallu cael eu denu at chwaraeon risg uchel lle maen nhw’n gallu rheoli emosiynau cryf, fel ofn, a chymryd camau sy’n penderfynu a fyddan nhw’n llwyddo neu’n marw. Yna bydd manteision gallu rheoli’r emosiynau mewn sefyllfaoedd risg uchel yn cael eu trosglwyddo’n ôl i fywyd bob dydd.
“Mae'n dilyn felly, po hiraf y mae'r unigolion yma’n ei dreulio heb wneud eu gweithgaredd, y mwyaf anodd y byddan nhw’n ei chael hi i reoli eu hemosiynau mewn cymdeithas.
“Mae ein canfyddiadau’n cadarnhau hyn ac yn dangos, o gymharu â chyfranogwyr mewn chwaraeon risg isel, mai dim ond mynyddwyr a dringwyr traddodiadol sy’n cael mwy o anhawster i reoli eu hemosiynau a bod ag ymdeimlad o reolaeth dros eu bywydau yn y cyfnod ar ôl cymryd rhan. Hynny yw, mae’r anhawster emosiynol y mae mynyddwyr a dringwyr traddodiadol yn ei gael mewn cymdeithas yn eu denu’n ôl at ddringo risg uchel i brofi’r ymdeimlad hwnnw o reolaeth unwaith eto.”