Yr economi a'r Gymraeg
Dydw i ddim wedi sôn rhyw lawer am y Gymraeg hyd yn hyn, ac efallai mai dyma'r lle cyntaf
a'r pwysicaf i'w chrybwyll hi, sef ym maes masnach ac economeg. Mae "Tai a gwaith i gadw'r
iaith!" yn hen slogan, ond yn fy marn i mae hi'n parhau yn wir. Tueddaf i gredu mai un o'r
rhesymau dros lwyddiant cymharol y Gymraeg o'i chymharu â'r ieithoedd Celtaidd eraill yw
ei bod hi wedi bod yn ddigon cryf i sefyll ei thir fel iaith gymunedol mewn ardaloedd lle bu
datblygiad economaidd sydyn iawn a mewnlifiad o weithwyr. Nid yn unig roedd hynny'n
golygu nad oedd angen gadael cymunedau fel Blaenau Ffestiniog a Chwm Gwendraeth i
chwilio am waith, roedd hefyd yn golygu bod angen i newydd-ddyfodiaid ddysgu'r iaith er
mwyn cymathu i'r gymuned. Er bod pethau wedi newid, yn enwedig o ran cymathiad newydd-
ddyfodiaid, yr wyf mor bendant fy marn ag y gallaf fod bod llewyrch economaidd mewn
ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol gref yn hanfodol ar gyfer ei pharhad.
Enghraifft nodedig o sut mae'r UE yn ymwneud ag "allanolion" yw ym maes polisi rhanbarthol.
Mae marchnad rydd yn medru creu sefyllfaoedd lle mae cyfoeth yn cronni mewn llefydd
penodol oddi mewn i diriogaeth y farchnad, ac mae hynny'n gallu creu anghyfartaledd cyfoeth
sydd yn ei dro yn arwain at gostau cymdeithasol uwch drwy daliadau lles ac ati. Nid yw
datrysiad gor-syml selotiaid masnach rydd megis Norman `on your bike' Tebbitt yn ddigonol i
ddelio efo hyn, yn arbennig mewn ardaloedd lle bu, ond lle gwanychodd, llewyrch
economaidd. Mae polisïau rhanbarthol yr UE yn bodoli er mwyn lliniaru rywfaint ar y broblem
hon. Drwy'r cyfryw bolisïau, mae'r UE yn gwneud dau beth. Yn gyntaf, mae'n dargyfeirio
cyllid i'r ardaloedd mwy anghennus, ac yn ail mae'n llacio rheolau yn erbyn cymorth y
wladwriaeth drwy ganiatáu i Lywodraethau roi grantiau neu fuddsoddiadau ar delerau ffafriol
i fusnesau yn yr ardaloedd hynny.
Mae rhannau helaeth o Gymru, wedi manteisio ar hyn wrth gwrs, gan gynnwys yr ardaloedd
hynny lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol gref. Er na fu'r ffordd y gwariwyd yr arian bob
tro efallai yn fuddiol o ran twf economaidd, does dim dwywaith yn fy marn i nad yw'r Gymraeg
wedi bod ar ei hennill oherwydd ymyrraeth yn y farchnad yn sgil yr arian strwythurol sydd
wedi dod i Gymru oddi wrth gronfeydd yr UE.
Yn wahanol i'r UE, nid oes gan y Deyrnas Gyfunol bolisi rhanbarthol sydd wedi ei anelu at
gynyddu llewyrch economaidd mewn ardaloedd llai breintiedig. Mae'r system les yn golygu
9